photograph of Tony Daniel photograph of New Quay and seascape 

Net Benefits, Datblygu Polisi Pysgota i Fae Ceredigion

Dros y 24 mis diwethaf, mae Cymdeithas Pysgotwyr Bae Ceredigion wedi llwyddo i sicrhau gwerth dros £200,000 o Arian Amcan Un i helpu i ddiogelu’r diwydiant pysgota o gwmpas Bae Ceredigion a cheisio symud y diwydiant yn ei flaen.

YSGRIF NODWEDD: Dydd Llun 17 Ionawr 2005 (Cyfwelydd Natalie Moyce)
Tony Daniel – Swyddog Datblygu

Rydych yn sôn bod hwn yn gyfnod cyffrous i’r Gymdeithas Pysgotwyr?
Cyhoeddwyd dogfen ddiwedd y llynedd o’r enw ‘Net Benefits’ a gynhyrchwyd gan uned strategaeth y prif weinidog, a oedd yn ystyried cyflwr pysgodfeydd a stociau pysgod y DU, ynghyd ag argymhellion ar gyfer y dyfodol. Felly, mae nifer o gynrychiolwyr o’r diwydiant, fi, pysgotwyr masnachol eraill a physgotwyr hamdden o’r ardal hon, yn ogystal â Gogledd a De Cymru, y mae ganddynt gynrychiolwyr tebyg. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru, Awdurdod Datblygu Cymru a chynrychiolwyr Aquaculture yn gysylltiedig hefyd. Mae ymgynghorydd pysgodfeydd annibynnol yn cadeirio’r grw^p. Bydd ein trafodaethau yn arwain at ymateb ar y cyd i ‘Net Benefits’ er mwyn rhoi cyngor i Carwyn Jones, Gweinidog y Cynulliad dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, ynghylch yr hyn yr hoffai’r diwydiant ei weld yn digwydd yng Nghymru. Gallai canlyniad y grw^p fod yn sail i bolisi pysgota i Gymru yn y dyfodol hefyd.

A yw pethau’n mynd yn dda ar hyn o bryd?
Ar hyn o bryd, mae’n mynd yn dda iawn. Rydym wedi cynnal 2 gyfarfod hyd yn hyn a byddwn yn cynnal un arall ym mis Chwefror. Rhaid cynhyrchu’r ddogfen derfynol erbyn mis Ebrill. Ar hyn o bryd, ein prif byrder yw diogelu dyfodol y diwydiant Pysgota yng Nghymru.

Sut fydd y gwaith diogelu hwn yn cael ei wneud?
Nid y broblem yw’r ffaith bod perygl y bydd y cimwch yn cael ei orbysgota. Y broblem yw’r bysgodfa ffynnu-dirywio sy’n dilyn amrywiadau naturiol ym maint y stoc. Mewn byd delfrydol, byddem yn pennu’r ymdrech bysgota ar lefel a fyddai’n sicrhau elw mwy sefydlog. Mae angen i ni atal dyfodiad cychod newydd i’r bysgodfa a welir bob tro y bydd lefel stociau yn codi. Cyn ymdrechu i reoli’r bysgodfa fel hyn, rhaid i ni ei diogelu rhag dechreuwyr newydd yn y bysgodfa a physgotwyr o ardaloedd eraill a allai fanteisio ar ein hymdrechion. Ar hyn o bryd, fodd bynnag, mae gan unrhyw un yr hawl i bysgota oherwydd hawliau hanesyddol. Ni allwch atal rhai rhag pysgota a rhoi caniatâd i eraill, oherwydd byddai modd ystyried bod hyn yn cyfateb â gwahaniaethu. Felly mae’n rhaid i ni feddwl am ffyrdd eraill o ddiogelu ein pysgodfa.

Felly nid ydych am weld pawb yn pysgota. Ai dyna’r gwir?
Nid ydw i’n dweud hynny. Rwy’n ceisio dweud bod angen i ni ddiogelu bywoliaeth y pysgotwyr ac mae’n rhaid i ni wneud hyn trwy gyfrwng cyfres o fesurau technegol. Er enghraifft, ar hyn o bryd, nid oes unrhyw beth i atal rhywun rhag dod i mewn i ddyfroedd Cymru gan roi pwysau enfawr ar y bysgodfa leol a chael effaith ddinistriol ar y diwydiant lleol. Mae angen i ni ddeddfu er mwyn sicrhau bod pob pysgotwr yn cael cyfle cyfartal i sicrhau ei fywoliaeth ac na fydd ymdrech ar raddfa fawr yn gallu peryglu’r fywoliaeth honno.

A yw’r sefyllfa yr un fath mewn gwledydd eraill, a cheir gwaharddiadau mewn ardaloedd penodol?
Mae mannau fel Jersey ac Ynys Manaw wedi cyflwyno mesurau technegol lle y maent yn dweud, er enghraifft, na allwch bysgota yma os yw’ch cwch dros hyd penodol.

Os na fydd y llywodraeth yn ei ddiogelu, beth fydd yn digwydd yn eich barn chi?
Os bydd pethau’n aros fel ag y maent, bydd pysgotwyr yn parhau gan ymdrechu i ennill bywoliaeth, bydd rhai yn aros a bydd rhai’n mynd. Fodd bynnag, os bydd cychod mwy yn penderfynu dod i mewn, gallent ddifrodi’r stoc cyn pen tymor neu ddau, gan olygu y bydd nifer o bysgotwyr lleol heb waith nes bydd y stoc yn cynyddu eto.

A yw hynny wedi digwydd?
Ar hyn o bryd, nac ydy. Fodd bynnag, mae pethau’n digwydd mewn rhannau eraill o’r wlad ac mae’n bosibl y gallai ddigwydd yma. Felly, rydym yn ystyried mesurau technegol,. Er enghraifft, hyd cychod, nifer y llestri pysgota fesul unigolyn, hatshis dianc sy’n galluogi cimychiaid a chrancod dan bwysau i ddianc.

Iawn, rydych yn rhoi stoc yn y dyfroedd hefyd?
Bu CBFA yn arloesi gyda chynllun rhicio V ar gimychiaid yn y 90au. Mae Pwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd Orllewin a Gogledd Cymru (NWNWSFC) yn gyfrifol amdano bellach – prosiect FIFG erbyn hyn; mae’n cyfateb ag ailstocio am wn i. Rydym yn dal benyw wyog, hynny yw benyw sy’n llawn wyau, yna mae NWNWSFC yn talu amdani, mae’r pysgotwr yn cael yr arian amdani fel pe bai’n mynd â hi i’r farchnad. Yna, rhoddir rhic V yn ei chwt ac mae’n cael ei rhyddhau, er mwyn iddi allu rhyddhau ei hwyau gan sicrhau nifer uwch yn y boblogaeth leol.

Iawn. Sut fyddech chi’n esbonio’r hyn a gyflawnir gan y prosiectau hyn a ariennir gan arian Amcan 1 i rywun fel fi, nad ydw i’n gwybod llawer am bysgota ar y môr?
Wel, mae prosiect y Swyddog Datblygu yn darparu cynrychiolaeth amser llawn i’r diwydiant, sy’n golygu gwneud yr hyn yr ydw i wedi bod yn sôn amdano nawr mwy neu lai a chael arian i brynu’r offer diogelwch ac ati, radios newydd, GPS’s (Systemau Lleoli Byd-Eang), tywysyddion lleoli Personol, mae gennym siacedi achub y tu ôl i mi, sy’n cael eu profi ar hyn o bryd, dylwn i fod wedi mynd allan brynhawn heddiw i’w profi ond roedd hi’n rhy oer (chwerthin).

Felly pryd gychwynnodd eich swydd?
Gorffennaf 2003, mae’n swydd a ariennir am 3 blynedd yn unig felly erbyn 2006, y gobaith yw y byddwn wedi gosod sylfaen y diwydiant ar gyfer y dyfodol. Rhan gyntaf fy swydd oedd mynd i’r afael â’r hyn sy’n digwydd yma. Fy mlaenoriaeth gyntaf oedd ehangu’r offer diogelwch ar bob cwch pysgota i lefel sy’n uwch na’r hyn a nodir fel y gofyniad isaf gan Maritime and Coastguard Agency. Felly, treuliais ran fwyaf y flwyddyn gyntaf yn gweithredu’r prosiectau menter diogelwch. Roedd ychydig waith polisi yn cael ei wneud yn y cefndir ond roedd y mwyafrif yn ymwneud ag ariannu. Nawr, y gwaith polisi yw’r prif waith.

Felly gan ystyried y 3 phrosiect, rydych wedi llwyddo i sicrhau gwerth £200,000, y bydd rhywfaint o’r arian yn dod i ben y flwyddyn nesaf, a ydych wedi sicrhau y rhan fwyaf o ganlyniadau’r prosiect erbyn hyn?

Dim eto, dim ond hanner yr offer diogelwch a ddosbarthwyd yn dilyn y prosiect “Diweddaru Offer Diogelwch”, a dim ond 2 sydd wedi elwa hyd yn hyn o’r prosiect “Aildaclu Cychod Pysgota ar gyfer Diogelwch, Esmwythdra ac Ansawdd Daliad”. Mae’n cael ei ddosbarthu’n raddol. Rydw i’n aros iddynt fod yn gymwys; rhaid i chi fod yn gymwys i ddefnyddio’r offer.

Ai offer fel yr offer lleoli byd-eang yw hwn?
Ie.

Felly ai offer y mae’r gyfraith yn mynnu eich bod yn ei gael yw hwn?
Na, mae’n fwy na’r hyn a fynnir gan y gyfraith; mae’r gyfraith yn eithaf sylfaenol i gychod pysgota dan 12m. Rydym yn manteisio ar yr offer chwilio ac achub electronig diweddaraf, a drafodwyd yn gynharach.

A oes llawer o ddamweiniau wedi digwydd yn y gorffennol felly, neu bethau y byddai wedi bod modd eu hatal?
Dim yn yr ardal hon. Rydw i’n aelod o Griw y Bad Achub yn Aberystwyth a bu angen tynnu sawl cwch pysgota yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’n siðr mai’r diwydiant pysgota y Glannau yw un o’r diwydiannau mwyaf peryglus. A glywsoch am y cwch a suddodd dros y Nadolig?

Na?
Ei enw oedd Yves Marie Amil, ac roedd ar ei ffordd o Bwllheli i arfordir y De i’w aildcalu. Aeth y cwch ar dân gan suddo ger ynys Gwales. Llwyddodd bad achub Tyddewi i achub y criw o 3 ac ni fu farw unrhyw un.

Wel, mae’n anhygoel eu bod wedi cael eu hachub.
Roedd y tywydd yn ofnadwy hefyd.

Mae’n ddrwg gen i newid y pwnc, ond faint o swyddi gafodd eu creu o ganlyniad i’r arian Amcan 1 yn eich barn chi?
Dim ond fy swydd i. Diben y prosiect offer diogelwch oedd sicrhau bod y llongau’n fwy diogel ac ni chrëwyd unrhyw swyddi newydd, ond gallech ddweud ei fod yn diogelu swyddi’r holl bysgotwyr bach sy’n manteisio ar y prosiect. Gallai greu swyddi’n anuniongyrchol trwy greu delwedd o alwedigaeth fwy diogel i weithio, oherwydd mae tipyn o broblem recriwtio yn yr ardal.

A yw’r diwydiant yn dioddef?
Mae problemau recriwtio mawr yn y bysgodfa yn genedlaethol, nid yw pobl yn dymuno bod yn bysgotwyr. Yn y diwydiant hwn, mae’n oer, mae’n frwnt, mae’n arw ac maent allan ar y môr ym mhob math o dywydd, nid yw’n rhywbeth y mae pobl yn dymuno ei wneud. Rwy’n credu bod y ffaith bod pobl yn ei hystyried yn swydd beryglus yn ffactor mawr. Rydw i’n gobeithio ein bod wedi cael gwared ar y ffactor hwnnw!

A yw delio â’r ddelwedd yn rhan o’ch rôl chi?
Mae’n siðr y gallech ddadlau ei fod, ydy.

Onid oes pobl yn gadael ysgol ac yn mynd yn bysgotwyr mwyach?
Ychydig iawn. Os bydd Pysgotwr yn colli ei griw, gall gymryd misoedd iddo ddod o hyd i rywun yn eu lle, nid yw’n hawdd dod o hyd i griw newydd.

A yw’r cyflog yn isel hefyd?
Mae’n cyfateb â’r cyflog ar gyfartaledd yn yr ardal hon. Nid yr arian yw’r broblem; delwedd y swydd, yn ogystal â’r perygl ymddangosiadol.

Felly beth am y dyfodol?
Mae angen i ni barhau gyda’r gwaith hwn. Mae angen i ni sicrhau mwy o arian, nid yw 3 blynedd yn ddigon. Mae digon o welliannau i’w gwneud yn sector tir y diwydiant pysgota. Rwy’n sôn am y gwaith prosesu, marchnata a sicrhau pris teg i’r pysgotwr ac ati, oherwydd ar hyn o bryd, mae popeth sy’n cael ei ddal yn cael ei allforio. Mae angen i ni gadw’r cynnyrch yn y wlad hon a’i werthu ar ôl i ni ychwanegu gwerth ato ein hunain, yn hytrach nag allforio’r cynnyrch byw a’r gwaith ychwanegu gwerth yn cael ei wneud dramor. Nid yw tair blynedd yn ddigon i ddatblygu'r bysgodfa. Yn wir, nid yw 3 blynedd yn ddigon hir i wneud llawer o gwbl, felly byddem yn ceisio sicrhau mwy o arian yn y dyfodol. Rydw i’n croesi bysedd y bydd Cymru yn llwyddo i hawlio’r Gronfa Pysgodfeydd Ewropeaidd sy’n disodli FIFG. Rydw i’n aelod o grðp ar hyn o bryd sy’n cynnwys y 4 cymdeithas pysgotwyr Cymru, ac rydym yn rhoi cyngor i WEFO ynghylch lle y dylid gwario arian, er mwyn iddo allu paratoi cais. Byddwn hefyd yn ceisio ffurfio ffederasiwn Cymreig o Bysgotwyr a fydd yn gweithredu fel corff ymbarél, gan gynnull y gwahanol gymdeithasau sy’n delio â’r holl ardaloedd yng Nghymru at ei gilydd. Ar hyn o bryd, nid oes corff cenedlaethol yng Nghymru.

Ai dim ond cimychiaid yr ydych yn eu pysgota?
Na. Rydym yn dal cimychiaid, crancod, crancod hirgoes a chorgimychiaid, mae un neu ddau yn pysgota am wichiaid moch, mecryll a draenogod y môr.

Ac mae’n mynd i wledydd tramor i gyd?
Bydd pysgotwr yn cyrraedd y lan, bydd yn cyfarfod â masnachwr mewn un o’r cilfachau parcio neu ger y porthladd, gan werthu’n uniongyrchol i’r masnachwr, ac yna bydd y masnachwr yn eu cadw mewn tanciau storio a phan fydd digon ohonynt i lanw lori, bydd yn eu gyrru i’r cyfandir.

Onid oes ganddynt eu bwyd môr eu hunain ar y cyfandir?
Wrth gwrs, ond mae’r galw am fwyd môr mewn gwledydd fel Sbaen a Phortiwgal lawer yn uwch nag y mae yma yn y DU. Gallant gymryd yr hyn y gallwn ei gynnig yn hawdd a mwy. Yn ogystal â hyn, mae’r cregynbysgod y byddwn yn eu dal o’r ansawdd gorau ac mae’r galw’n uwch am y rhain.

Rydych dan anfantais yn y gadwyn felly?
Yn y bôn, rydym yn allforio cynnyrch amrwd. Trwy wneud hyn, nid ydym yn manteisio ar y manteision economaidd ychwanegol o ychwanegu gwerth i gynnyrch o ansawdd.

Felly, sut allech chi ychwanegu gwerth, trwy eu pacio a’u gwerthu wedi hynny?
Wel, hyd yn oed os byddwch yn ei rewi neu’n ei goginio, byddwch wedi ychwanegu gwerth ato.

Iawn.
Rydym yn dymuno ei brosesu a’i baratoi oherwydd nid oes unrhyw un yn mwynhau pigo ar granc, os allwch wneud hynny ar eu rhan a’i bacio mewn ffordd ddeniadol, byddai mwy o bobl yn y DU yn bwyta cregynbysgod.

Mae gwir angen i fusnesau gymryd rhan felly?
Oes. Mae angen cyfleusterau storio a safleoedd prosesu arnom, rydym wedi gwneud ychydig waith gyda Chanolfan Fwyd Horeb, gan arbrofi gyda phacio dan wactod a phrofion oes silff.

Beth yw’ch cefndir chi?
Rydw i’n Fiolegydd Môr. Bum yn astudio yn Aberystwyth ond o ran marchnata, mae gwir angen swyddog marchnata arnom, ac nid dyna fy maes i.

DIWEDD


CAU'R FFENEST