\
photograph of Aberystwyth Technium
photograph of Sion Meredith
photograph of residents at Aberystwyth Technium
Technium Aberystwyth
Sion Meredith
Busnesau oTechnium Aberystwyth

Meithrin Entrepreneuriaid yng nghyfleusterau newydd gwych Technium yn Aberystwyth

Yn wreiddiol, bwriadwyd iddo fod yn gaffi wrth ymyl y marina braf, ond yn awr, y Technium ydyw, cartref i gyfleusterau gwych, prosiect deor ar gyfer busnesau ac egin fusnesau uchel eu twf, wedi eu seilio ar wybodaeth. Cafodd y prosiect 882k o arian Amcan 1 yn 2004, ac yn awr, mae'r 3 busnes cyntaf wedi ymsefydlu yn y Technium. Ymhlith y cyfranwyr eraill i'r prosiect oedd Ffordd i Ffyniant ac Awdurdod Datblygu Cymru

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------- Cyfweliad gyda SMARTDATA - Cliciwch yma>>

Cyfweliadau gyda Sion Meredith, Smart Data, Unigryw a Predictive Solutions…Yr holwr: Natalie Moyce

Faint ohonoch sy'n rhan o'r Technium?
Mae 4 o staff, Nia'r derbynnydd, John Thomas, Rheolwr y Cyfleusterau, fi, sef y Swyddog Gweithredu Technegol, a John Parker Rheolwr Technium.
Beth am y busnesau - mae rhai wedi dechrau symud i mewn, yn ôl y sôn?
3  sydd yma ar hyn o bryd. Symudodd Unigryw i mewn gyntaf - Cwmni Cynhyrchu Teledu Cymraeg a Chwmni Cyfrynau Newydd. Ein hail denantiaid oedd Predictive Solutions; cwmni sy'n deillio o Brifysgol Aberystwyth yw hwn, sydd yn ymwneud â mapio data ar gyfer y gwyddorau biolegol a Smart Data, cwmni meddalwedd TG..
Ar ba ddyddiad symudodd eich tenant cyntaf i mewn?
Symudodd Catrin o Unigryw yma yn union ar ôl i ni gael arian Ewrop ym mis Awst 2004.
Roedd y lle'n barod i ddechrau erbyn hynny?
Oedd -  roedd yr adeilad ei hunan wedi cael ei glustnodi ar gyfer Cyfadeilad Hamdden a gwesty ar lan y dŵr, ond am y naill reswm neu’r llall, nid oeddent yn medru cael cyllid o’r sector breifat. Cafodd Awdurdod Datblygu Cymru yr adeilad gyda golwg ar gyfleuster cyfnod meithrin ac  addasu'r adeilad fel y gwelwch yn awr.
Faint o grant gawsoch chi gan Amcan 1?
£882k, Ffordd i Ffynniant £375k ac Awdurdod Datblygu Cymru - £377k.
Felly, faint o fusnesau ydych chi'n gobeithio eu helpu, beth yw eich targedau ar gyfer meithrin busnesau - achos rydych chi'n delio ag egin-fusnesau hefyd, onid ydych?
Ydyn, yn hytrach na dewis busnes technoleg sydd yn ei gyfnod cynnar sydd eisoes â hanes  o farchnata, bydd Technium Aberystwyth yn canolbwyntio ar ddatblygu mecanyddiaeth cefnogi ar gyfer dechrau busnesau sydd yn seiliedig ar dechnoleg/gwybodaeth  Mae hwn yn gyfnod meithrin dwys 3-6 mis. Wrth symud ymlaen o’r cyfnod egino busnesau, bydd busnesau yna yn cael prydles lawn gyda Technium Aberystwyth a byddant yna yn ymgymryd â rhaglen arolwg chwartreol llai dwys gyda Rheolwr Technium.  Rhoddir cymorth strwythuredig yn sgil yr arolwg busnes gan ddefnyddio cynnyrch cymorth arferol a hefyd mesurau arbenigol lle bo angen.  Ar y pwynt hwn bydd y cwmni yn arwyddo cytundeb tenantiaeth 3 blynedd.
Sut ydych chi'n mesur beth sy'n mynd i brofi twf uchel a bod yn llwyddiannus, felly?
Mae proses wirio yn bodoli er mwyn  cynorthwyo ein penderfyniad ond ni allwch warantu llwyddiant,  mae braidd fel edrych i mewn i bêl risial. Fodd  rydym yn rhagweld y bydd  methiannau. Mae’n rhan o’r meithrin.
Oes rhaid i’r rhai sy’n ceisio cael lle yn y Technium fod yn dod o Brifysgol?
Nac oes, dim o gwbl. Roedd y ddau denant cyntaf yn digwydd dod o Brifysgol Cymru Aberystwyth ond yr ydym am geisio denu buddsoddwyr mewnol, busnesau technoleg newydd, busnesau technoleg sydd yn bodoli eisoes ac sydd yn y cyfnod cynnar neu is-gwmnïau busnesau technoleg presennol.
Fyddwch chi'n eu helpu gyda phethau fel rhwydweithio a chysylltiadau, hefyd?
Yn sicr mae hynny'n rhywbeth yr ydym am ei hybu. Ond mae Technium Aberystwyth yn cynnig amrediad o gynnyrch i’w denantiaid gan gynnwys cymorth busnes a mentora penodol, swyddfeydd, cyfleusterau cyfarfod a chynhadleddau.  Mae busnesau tenantiaid o few Technium Aberystwyth yn datblygu proses o’r tro cyntaf y maent yn cysylltu â Techniwum hyd yr adeg y maernt yn graddio.  Mae hon yn broses sydd yn cael ei rheoli yn gyfan gwbl  ac yn cael ei harwain gan Reolwr a Gweithrediaeth  Technium yn ystod tenantiaeth y fusnes.
Mae'n ddrwg gen i – dwi ddim yn cofio’r targed ar gyfer nifer y busnesau?
Wel, mae tua 16,000 metr sgwâr yma i gyd, gyda 8,000 metr sgwâr yn ofod swyddfa gan ystyried gofod a gollir megis derbynfa, toiledau,cegin ayb.  Gall cleientiaid gymryd tenantiaeth lawn gyda Technium Aberystwyth gyda gofod yn amrywio o ychydig o dan 200 tr sg a dros 1000 tr. sg Caiff y gofod ei brydlesi am       15 am bob milltir sgwâr sydd yn cynnwys trethi busnes a chyfleusterau eraill.  Mae’r tenant ond yn gyfrifol am alwadau teliffon a rhentu’r llinell honno.  Caiff mynediad i’r rhyngrwyd ei gynnwys fel rhan o’r gost am bob troedfedd sgwâr.
Oes raid i'r cwmnïau ddod o Geredigion?
Nag oes.
Wir?
Mae cwmnïau sy'n dod â buddsoddiad i mewn yn gymwys,
A fu llawer o ddiddordeb gan ymgeiswyr posibl?
Mae gennym 3 busnes ar hyn o bryd ac yr ydym yn trafod gyda 4 cwmni arall sydd wedi mynegi diddordeb.
Sut ydych chi am fod yn gynaliadwy erbyn 2007?
Rhent yn ôl maint llawr, a gwasanaethau maint ychwanegol a gynigir gennym.
Ydy o'n llawer rhatach na swyddfeydd masnachol eraill?
Mae'n gystadleuol.
Beth yw'r strategaeth ar ôl 2007?
Byddwn yn datblygu cynllun busnes ar gyfer swydd  Technium Aberystwyth 2007.
Faint o swyddi y mae'r prosiect wedi eu creu hyd yn hyn?
Ein targed ar gyfer swyddi yw 34.5 swydd amser llawn. Yn amlwg, mae'r hanner unigolyn yn bwysig! Hyd yma, mae gennym y busnesau sydd yma'n barod. Mae Smart Data yn cyflogi 7, mae Predictive Solutions yn cyflogi un ac maent yn amlwg yn gobeithio cyflogi mwy na hynny. Mae Unigryw yn cyflogi 1 unigolyn ar y funud. Mae Aber-porth yn cael ei ddatblygu i lawr y ffordd. Yn amlwg, mewn amser byddem yn gobeithio cyflogi llawer mwy na hynny.
Beth sy'n digwydd i'r busnesau pan fyddant yn symud oddi yma? A fyddant yn aros yn yr ardal neu'n symud i ffwrdd o Geredigion?
Ein targed ar gyfer swyddi newydd yw 34.5, wrth gwrs mae’r hanner person yn bwysig iawn!  Fodd bynnag, mae allbynnau eraill wedi eu clymu i mewn i’r prosiect sydd hefyd angen cwrdd â hwy.Beth sydd yn digwydd gyda’r busnesau, pan fydant yn gadael yma a fyddant yn aros yn yr ardal neu a fyddant yn symud i ffwrdd o Geredigion?
Ni fyddai pwynt cael busnesau yma os mai eu bwriad fyddai symud i ffwrdd.  Byddwn yn gweithio yn agos gyda phob cwmni ar strategaeth ymadael wrth iddynt nesau at ddiwedd eu cyfnod meithrin gyda ni.  Mae Awdurdod Datblygu Cymru am geisio datblygu ymhellach ei bortffolio swyddfeydd, er enghraifft clustnodir Capel Bangor ar gyfer datblygu.  Mae Aberporth yn amlwg yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, 50 milltir i lawr yr arfordir ac mae gennym unedau ym Machynlleth. 
Mae Awdurdod Datblygu Cymru yn cefnogi busnesau wrth iddynt dyfu, beth bynnag, onid ydynt?
Wel, ydynt - mae grantiau penodol i'w cael.
Felly, y drefn gwneud cais - faint o amser mae'n ei gymryd o'r amser y gwnânt y cais tan y gallant symud i mewn yma?
Wel, mae'n dibynnu, a dweud y gwir. Un o'r prif broblemau yw llofnodi'r cytundebau les a hynny o ran pethau bychain fel mannau parcio ceir. Felly, gallwn droi'r peth rownd yn gyflym iawn os bydd angen ond mae angen cydweithrediad oddi wrth y cwmni.
Sut mae'r brifysgol yn rhan o'r peth?
Mae'r brifysgol ei hunan wedi bod yn flaengar iawn yn datblygu’r prosiect.  Maent yn un o dri phartner yn y prosiect ynghyd ag IGER a Phrifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan.  Maent yn rhyngweithiol yn gweithio gyda thenantiaid Technum, yn enwedig ym meysydd comisiynu gwasanaethau ymchwil a gyllidir drwy KEF.  I raddau mwy mae datblygiad y Ganolfan Ddelweddu newydd   hefyd yn darparu cyfleoedd a sgil-effeithiau oddi wrth y Brifysgol.  Mae ganddynt hefyd ganolfan meithrin o’r enw  "Crysalis", sydd mewn gwirionedd yn rhagflaenydd i Technium.
Fel cerrig stepiau tuag atoch chi?
Ie, gobeithiwn weld ychydig rhagor o gwmniau yn rholio i lawr y rhiw tuag atom yn Technium Aberystwyth.Natalie Moyce
Swydog Cyhoeddusrwydd a Gwybodaeth

-----------------------------------------------

UNIGRYW: Catrin

Beth mae Unigryw yn ei wneud?

Cwmni cynhyrchu i'r cyfryngau ydy o. Rydym yn gwneud rhaglenni teledu. Rydym hefyd yn cynhyrchu fideos i wahanol wefannau, deunydd marchnata. Dangoswyd y rhaglen ddiwethaf a wnaethom yng Nghlwyd, Gogledd Cymru.

Beth yw dy gefndir? Es di i brifysgol ac astudio Ffilm a'r Cyfryngau?

Naddo. Theatr oedd fy mhwnc gradd ac yna es i weithio i weithdy Ffilm a'r Cyfryngau, i gwmni teledu.

Wyt ti'n hapus â'r cyfleusterau sydd gennyt yma?

O ydw. Maen nhw'n wych.

Beth yw'r manteision o fod yma, wyt ti'n meddwl?

Dwi'n credu ei fod o help bod mewn amgylchedd neilltuol, amgylchedd cymysg gyda phobl fusnes arall. Gorau po fwyaf cymysg y mae'r amgylchedd mewn gwirionedd, er mwyn i chi gyd gael tanio syniadau. A'r gefnogaeth fusnes hefyd, y gefnogaeth ymarferol, y llungopïwr a'r peiriant ffrancio. Maen nhw'n swnio'n bethau bach ond maent yn bethau nad yw cwmni bychan eisiau trafferthu ei hun gyda hwy.

Y ffaith y bydd rhywun yn postio stwff i chi, sydd yn rhoi hanner awr i chi lle nad oes raid i chi redeg o gwmpas, wyt ti'n gwybod?

Mae 'na lawer o bethau bychain sy'n gallu cyfrannu'n wirioneddol i gwmni bychan.

Wyt ti'n gweld dy hun yn tyfu'n fawr gyda'r busnes, gan mai dim ond y ti sydd yna ar hyn o bryd?

Gyda theledu, mae'n dibynnu ar y gwaith mae rhywun yn ei gael. Gallech gael cyfres fawr, a fyddai'n golygu twf uchel, ond gyda'r gwaith arall, twf ar raddfa lai fydd yna. Y nod yw ceisio cael prosiectau eraill i mewn a all gyfrannu at dwf uchel.

Wyt ti wedi gweithio llawer gyda S4C?

Wel, dim ond un rhaglen y mae Unigryw wedi'i wneud i S4C, ond rwyf wedi gwneud llawer o waith gyda hwy yn y gorffennol. Mae'r farchnad iaith Gymraeg yn un sy'n tyfu; mae'n gystadleuol iawn, i ddweud y gwir.

-------------------------------------------

PREDICTIVE SOLUTIONS

Christine

A wnaeth Predictive Solutions ymuno â Technium fel egin-fusnes, busnes newydd neu fusnes a sefydlwyd?

Rhyw fath o'i sefydlu. Mae ar ei gamau cyntaf. Rwy'n credu ein bod wedi mynd heibio i'r cam deor. Mae wedi bod yn mynd am 3 blynedd erbyn hyn.

OK, rwyt ti yn dy drydedd flwyddyn. Beth mae Predictive Solutions yn ei wneud?

Mae gennym feddalwedd cyfrifiadurol sy'n arbenigo mewn cloddio am ddata, ac yn y lle cyntaf roeddem yn ei dargedu at y farchnad bio-wyddorau. Dyna pam mae'n cael ei alw yn Gmax Bio, a'i lansio yn America. Roedd hynny ychydig o fisoedd cyn i mi ymuno â'r cwmni fel gweinyddwr a thyfodd pethau o hynny ymlaen, mewn gwirionedd. Dechreuasom fynd i arddangosfeydd ac aeth pethau ymlaen o hynny.

Pwy sefydlodd y busnes?

2 academydd a sefydlodd y busnes; Douglas Cowell, mae o yn y gwyddorau biolegol a Jem Rowlands, mae o yn ymdrin â Gwyddorau Cyfrifiadurol.

Felly, faint ohonoch sydd yn y cwmni?

Mae tri chyfarwyddwr, cadeirydd a minnau, y gweinyddwr.

Ydych chi i gyd yn gweithio yn y fan hon?

Na, dim ond y fi sydd yn y Technium. Roedd gennym Reolwr Gwerthiant ond roedd ganddo deulu dramor ac yn y diwedd aeth popeth yn ormod iddo a symudodd i ffwrdd.

Felly, pam dewis Technium. Wyt ti'n gwybod?

Am fod ganddo fwy o ogwydd at fusnes na'r llefydd eraill oedd mewn golwg. Mae'n ffafriol i fusnes. Mae ganddo ystafelloedd cyfarfod, gwell dulliau cyfathrebu.

Wyt ti'n cael llawer i'w wneud â'r tenantiaid eraill?

Ydw, rydym yn sgwrsio, Smart Data, rwyf yn aml yn mynd ymaith gyda phwt o wybodaeth dwi wedi ei ddysgu, am arian. Rydym yn cyfnewid gwybodaeth. Rydym yn siarad am syniadau, eu cynnyrch, a'n cynnyrch ninnau. Pan ddaw mwy o denantiaid, bydd y rhyngweithio yn cynyddu hefyd. Cyfarfodydd brecwast a sesiynau coffi ac yn y blaen.

Beth fyddet ti'n ei ddweud wrth denantiaid potensial yn dod i mewn?

Byddwn yn dweud fod gennych yr holl help yr ydych ei angen wrth law. Mae cynghorwyr busnes yna i'ch helpu gydag unrhyw broblemau neilltuol sydd gennych, hyd yn oed os yw'n stwff eithaf sylfaenol, fel llif arian, eich rhoi mewn cysylltiad â sefydliadau eraill. Dwi'n credu ei fod yn lle braf i ddod â chwsmeriaid iddo. Mae'n amgylchedd busnes braf, mae'n rhad iawn, o ran y rhent. I Aberystwyth, mae'n lleoliad rhesymol iawn.

Fel cwmni, oes gennych unrhyw gynlluniau i dyfu?

Rydym newydd recriwtio prif weithredwr ac mae ef yn mynd i fod yn recriwtio staff gwerthu newydd, yma a thramor.

A fydd ef neu hi wedi'i leoli yma?

Efallai, peth o'r amser. Ond bydd allan yn teithio cryn dipyn, hefyd a chyfarfod pobl, yn gweld cwsmeriaid. Bydd y swyddog yn ymwneud â phobl ar draws y byd, nid Cymru yn unig.

Diwedd