Yn
wreiddiol, bwriadwyd iddo fod yn gaffi wrth ymyl y marina braf, ond
yn awr, y Technium ydyw, cartref i gyfleusterau gwych, prosiect deor
ar gyfer busnesau ac egin fusnesau uchel eu twf, wedi eu seilio ar wybodaeth.
Cafodd y prosiect 882k o arian Amcan 1 yn 2004, ac yn awr, mae'r 3 busnes
cyntaf wedi ymsefydlu yn y Technium. Ymhlith y cyfranwyr eraill i'r
prosiect oedd Ffordd i Ffyniant ac Awdurdod Datblygu Cymru.
Ers
pryd ydych chi wedi bod mewn busnes?
(Gareth) 5 mlynedd, 1999.
Pa
un ohonoch sefydlodd y busnes?
Simon Hopkins. Roedd o'n rhedeg y busnes ac yn ddarlithydd yr un pryd.
Dechreuodd ysgrifennu meddalwedd i wneud ei waith yn haws, yna dechreuodd
wneud mwy o bres o hynny na'i ddarlithio, ac fe fanteisiodd ar y cyfle
i gymryd ymddiswyddiad gwirfoddol. Roedd y Rhaglen Ddeillio yn rhedeg
yr un pryd, felly deilliodd allan o honno.
Pryd
wnest ti ymuno, felly?
Dechreuais yn 2003, yn rhannol fel peiriannydd ac yn rhannol fel swyddog
marchnata.
Yma
fues di yn y brifysgol?
Ie. Gorffennais fy ngradd mewn Peirianneg Meddalwedd yn Aberystwyth
yn 2002. Nid oes llawer o gwmpas yr ardal hon o ran swyddi TG, yn enwedig
Peirianneg Meddalwedd, ond roeddwn yn benderfynol nad oeddwn am symud.
Arhosais o gwmpas, gweithio i'r cyngor am dipyn, ac yna daeth y swydd
hon.
Mae
wedi bod yn gyfle gwych i ti, felly?
Do, yn sicr. Mae'n un o'r ychydig fusnesau peirianneg meddalwedd yn
yr ardal.
Felly,
sut mae'r cyfleusterau hyn wedi eich helpu o ran creu swyddi neu o ran
twf busnes?
Mae wedi rhoi lle i ni ehangu’n wirioneddol. Roedd y lle oedd
gennym gynt, roedd yn braf, allan yn y wlad, mewn swyddfeydd a ddarparwyd
gan y brifysgol, rhan o Raglen Cwmnïau Deillio. Roeddem ar barc,
i bob pwrpas, yn rhannu swyddfa gyda chwmni arall o'r enw TBS; roeddem
yn rhannu'r llawr uchaf.
Ydy
pethau'n mynd yn dda? Pam Technium felly?
Ydynt, mae saith ohonom yn y cwmni. Ar y funud rydym yn newid ein prosesau
datblygu meddalwedd i wneud pethau'n fwy effeithlon a hwylus i'n cleientiaid.
Roeddem eisiau dangos amgylchedd da i'n cleientiaid. Roedd yn bwysig
fod ein cleient yn gweld delwedd dda iawn pan oeddynt yn cyrraedd. Felly,
dyna sut oedd Technium yn cael ei weld - perthnasoedd da, cysylltiadau
da, yn uchel ei barch gan Awdurdod Datblygu Cymru? Ie, y cyfan o'r uchod,
a dweud y gwir. Gallasem fod wedi cael mwy o le yn y ganolfan arall.
Roedd yn lleoliad gwledig, hyfryd, amgylchedd gwaith hamddenol, braf.
Felly,
mae delwedd yn bopeth yn eich maes gwaith chi?
Dim o angenrheidrwydd. O'r blaen, gallai pobl gyrraedd ein maes parcio
a bod yn straffaglu am le, defaid yn cyrraedd, gwasanaethau cyfebru
a chwn defaid yn rhedeg o gwmpas y lle (chwerthin).
Felly,
ti ddechreuodd y busnes? (yn edrych ar Simon)
(Simon) Yn digwydd bod, bryd hynny, y graddedigion lleol oedd y rhai
gorau ar gyfer y gwaith. Yn ystod fy amser fel darlithydd ym Mhrifysgol
Aberystwyth, roeddwn yn dechrau ymwneud â dylunio meddalwedd.
Nid oedd gan y brifysgol ddiddordeb yn ochr masnachol pethau, roedd
yn well ganddynt hwy i mi dreulio fy amser yn gwneud gweithgareddau
eraill. Roeddwn yn cario ymlaen o fy nghartref, wedyn, yn fy amser fy
hun. Nid oeddwn yn rhagweld unrhyw dwf naturiol o gwbl. O wneud gwaith
da i bobl, maent yn dod yn ôl, ac yn rhoi fy enw i eraill. Wedyn,
roeddwn, i bob pwrpas, yn ceisio cadw 2 swydd amser llawn i fynd, am
dipyn. Wedyn, daeth y cyfle i roi'r gorau i fy swydd yn wirfoddol. Aeth
y cwmni yn gwmni cyfyngedig yn 2000. Yn 2001, gadewais y Brifysgol.
Rydym yn mynd i fod mewn sefyllfa eithaf unigryw o'n cymharu â
thenantiaid eraill, yn yr ystyr ein bod ni wedi'n sefydlu yn eithaf
da. Pan ddaethom yma, roeddem wedi'n sefydlu fel cwmni deillio, felly
daethom i gytundeb â'r brifysgol, ar y pryd. Roeddem wedi bod
yn masnachu am 3 blynedd bryd hynny. Mae gennym gefndir masnach nawr
ac rydym wedi esblygu gwahanol agweddau o'r busnes. Rydym wedi cael
llawer o gefnogaeth gan Lygad Busnes, y Rhaglen Ddeillio. Mae natur
y gefnogaeth rydym ei hangen yn awr yn fwy arbenigol. Rydym angen edrych
yn fanwl ar y cynllun busnes. Rydym ar ail gam y datblygiad mewn gwirionedd,
felly mae angen mwy o gyngor arbenigol. Efallai, cyngor sy'n anoddach
cael gafael arno. Trwy'r cysylltiadau yn Technium dylem fedru cael gafael
ar gysylltiadau na fedrwn eu cael yn lleol. Trwy gysylltiadau rheolwyr
Technium dylem gael mynediad at ymgynghorwyr llawer mwy arbenigol i'n
helpu ni. Yn chwarter cyntaf y flwyddyn hon, yn enwedig, rydym yn datblygu
cynnyrch, yn hytrach na gwasanaeth. Dyna yw'n prif nod, mewn gwirionedd
- datblygu meddalwedd pwrpasol.
Pwy
ydy eich cleientiaid, a ble mae nhw?
Maen nhw ym mhob man a gall fod yn unrhyw fusnes, a dweud y gwir. Esblygodd
y busnes yn bennaf yn y sector amaethyddol, yn syml, oherwydd fy nghysylltiadau
pan oeddwn yn y brifysgol. Rydym yn gwneud llawer o waith yn y sector
amaethyddol, nid o reidrwydd yn uniongyrchol i ffermwyr, ond i fudiadau
a grwpiau sy'n delio â maint anferthol o wybodaeth. Rydym wedi
bod yn cymhwyso'r un cymhwysiad ar draws gwahanol farchnadoedd. Rydym
hefyd wedi gwneud nifer o systemau yn y diwydiant hamdden, y diwydiant
adeiladu a'r bio-wyddorau. Mae ein marchnadoedd mewn 2 gyfeiriad. O
fewn unrhyw sector, mae gennym yr holl wahanol agweddau o'r meddalwedd
yr ydym yn ei wneud, ac yna rydym yn ceisio datblygu cynnyrch. Yna,
mae gennym gymhwysiad ar draws gwahanol sectorau diwydiant, a'n cynnyrch
cyntaf yw meddalwedd tracio tasgau, gwybodaeth rheoli taflenni amser
gwaith. I'r cyrff a sefydliadau cyhoeddus, sy'n tynnu arian Ewrop ar
gyfer prosiectau, maen nhw'n gorfod amseru gweithgareddau.
Ydy
hynny'n amser gwirioneddol?
Ydy, felly mae'n cofnodi eich amser yn erbyn prosiectau a gweithgareddau.
Gallwch ei ddefnyddio i reoli gweithio oriau hyblyg, neu benderfynu
gorbenion busnes. Mae gennym ychydig o bethau arbrofol hefyd. Mae rhai
fersiynau prawf wedi mynd allan. Mae'r fersiwn beta yn cael prawf eithaf
llym ac yna byddwn yn barod i roi sglein arni. Ar yr un pryd, rydym
yn dechrau rhoi delwedd brand at ei gilydd, a phenderfynu sut ydym yn
mynd i'w farchnata. Rydym yn chwilio am bobl gyda diddordeb yn y pecyn
er mwyn cael eu mewnbwn hwy, er mwyn i ni gael llunio'r nodweddion fydd
ar y fersiwn derfynol.
Oes
gennych chi enw eto?
Rydym wedi bod yn cyfeirio ato fel Traciwr Tasgau, ond dwi'n siwr, yn
y broses farchnata y byddwn yn gallu meddwl am rywbeth gydag ychydig
mwy o ddychymyg o'i gwmpas (chwerthin).
Beth
yw manteision bod yma yn Technium yn hytrach na mewn swyddfeydd eraill?
Y gefnogaeth ychwanegol botensial, sy'n cael ei theilwra i'ch gofynion
chi, credaf. Os ydych yn edrych ar y punnoedd bob mis, nid yw'n ddewis
rhad, ond mae potensial enfawr am adenillion ar y buddsoddiad hwnnw,
na fyddech yn ei gael i'r un graddau mewn canolfannau eraill. Mae prinder
lleoliadau swyddfa o ansawdd uchel o'r natur hon yn yr ardal. Mae gan
y Parc Gwyddoniaeth leoedd swyddfa neis ond mae'r cyfleusterau yn cael
eu cymryd yn sydyn iawn. Ar wahân i hynny, ychydig iawn o swyddfeydd
modern, gyda gwasanaethau, wedi'u dylunio a'u dodrefnu'n dda sydd ar
gael - ychydig iawn. Hefyd, gydag Awdurdod Datblygu Cymru yn hyrwyddo
Technium, maent hefyd yn ein hyrwyddo ninnau, ac yr ydym wedi cael ambell
ddatganiad i'r wasg wedi ei ysgrifennu amdanom.
Rydych
chi yma am 3 blynedd, dwi'n deall?
Ydym.
Ydy
hynny yn eich poeni o gwbl, y ffaith eich bod allan mewn 3 blynedd?
Roedd yn ffactor pwysig, cyn i ni dderbyn dod yma, i ni geisio cael
strategaeth ymadael ac nid oes unrhyw beth yn weithredol hyd yn hyn.
Mae sôn am Barc Menter yn rhywle. Mae safle dadleuol yng Nghapel
Bangor. Pwy a wyr beth sy'n mynd i ddigwydd yno? Mae safleoedd eraill
o amgylch Cymru, ond ar wahân i ddatblygiad potensial Capel Bangor,
nid wyf yn siwr am gael lle yn lleol. Rydym wedi cael ein sicrhau y
byddwn yn cael ein gofalu amdanom. Oherwydd natur yr hyn yr ydym yn
ei wneud, nid oes raid i ni fod yng Nghaerdydd, dim angen o gwbl; Gallwn
weithio mewn amgylchedd gwych, ardal wledig braf.
Byddai
llawer o'ch cleientiaid yng Nghaerdydd?
Dros bob man, a dweud y gwir, Dumfries, Rhydychen, Ashford yn Swydd
Caint, Canolbarth Lloegr. Rydym wedi cael ein sicrhau gan Awdurdod Datblygu
Cymru na chawn ein taflu allan heb unrhyw beth. Os nad oes darpariaeth
briodol.
Pa
mor fawr ydych chi eisiau tyfu? Ydych chi eisiau bod y Bill Gates nesaf?
(Chwerthin). Y bwriad yw peidio tyfu yn gawr o fusnes. Ar hyn o bryd,
nid oes gennym dîm digon mawr i gynnal portffolio o waith wedi'i
deilwra a rheoli nifer o gynhyrchion. Gallent hwy esblygu yn is-gwmnïau
yn eu henw eu hunain. Felly, rydym angen esblygu'r tîm, er mwyn
i ni allu darparu tîm datblygu da i wneud mwy o amrywiaeth o waith
pwrpasol. Byddai gennym ddigon o staff i gynnal, datblygu a chefnogi
ystod o gynnyrch ac yna'r staff gweinyddol angenrheidiol. Tu hwnt i
hynny, rydym ar dir peryglus, achos mae cwmnïau meddalwedd mawr
iawn yn bodoli. Os dechreuwch chi sathru ar eu traed hwy, gallant godi
muriau brics yn y farchnad. Mae bwlch amlwg allan yna, o ran cwmnïau
datblygu meddalwedd llai sy'n rhoi gwasanaeth fforddiadwy i SMEs. Mae
datblygu meddalwedd yn gêm ddrud ac os ydych chi'n edrych am gwmni
meddalwedd i ddarparu eich gwasanaethau a chynnyrch, yna rydych yn sôn
am filiau mawr iawn. Felly, rydym ni'n gosod ein hunain yn y canol,
fforddiadwy, cyfeillgar ac yn gwmni sydd yn ysgafnach ei droed ac yn
gallu esblygu wrth i dechnoleg a gofynion newid. Rydym am ei dyfu i
fod yn gwmni solet, da i weithio ynddo gyda sylfaen sefydlog iawn a
dyfodol hir.
DIWEDD