photograph of sali mali village - Pentre Bach Ni
Sali Mali's House boat shape in stone wall at Pentre Bach Ni One of the houses at Pentre Bach Ni

Sut mae Sali Mali yn setlo ym Mhentre Bach?

Pentre Bach, Pentref Teledu i leoliad cyfres Gymraeg i blant. Datgelu cysyniad y prosiect. Aeth Adrian Savill, gwr Ifana Savill, awdures y gyfres newydd “Pentre Bach” – cymysgedd o gymeriadau o Gaffi Sali Mali a rhai cymeriadau newydd, â mi ar daith o gwmpas y pentref Teledu. I gyrraedd y pentref, rhaid teithio trwy dirlun bryniog a ffyrdd troellog Tregaron tan i chi gyrraedd Blaenpennal. Mae llawer o weithgarwch yn digwydd yno wrth i yrrwr JCB wneud gwaith i osod “gatiau hen ffasiwn” newydd yn y caeau, a chaiff rhai placiau llechi newydd sy’n nodi enwau'r caeau eu gosod ger y gatiau. Mae nifer o adeiladwyr yn cerdded heibio wrth i Adrian bwyntio at y wraig a arferai weithio i Harrods ac sydd wedi bod yn helpu gyda’r gwaith ffilmio, wrth iddi gerdded yn hamddenol i lawr i un o’r bythynnod, lle y mae’n byw ar hyn o bryd. Mae Adrian yn awyddus iawn i gyfleu cysyniad llawn Pentre Bach. Nid oes yn rhaid i mi droi at fy rhestr o gwestiynau wedi’r cyfan...

Cyfweliad gydag Adrian Savill Dydd Llun 9 Awst 2004
Cyfwelydd: Natalie Moyce


“Rydym yn gweld amaethyddiaeth difrifol yn toddi yn yr ardal hon fel diwedd oes iâ,” esboniodd Adrian. “Os ydych yn dod o’r ardal, arferai fod yn anodd creu cyfleoedd gwaith i chi ac i eraill, ac mae’n parhau i fod yn anodd gwneud hynny. Mae Ceredigion yn llwyddo i ddarparu addysg ardderchog i blant – ond nid yw’n gallu creu cyfleoedd mor dda iddynt i aros.

Mae Pentre Bach yn ffrwyth syniad Ifana, ac ar ôl iddi ysgrifennu 52 o episodau o Gaffi Sali Mali ar gyfer S4C, gwelodd y cyfle i seilio opera sebon i blant ar fywyd mewn pentref a’i ffilmio yno.

“Bu sicrhau’r holl ganiatâd cynllunio, delio â’r holl dendrau ar gyfer y gwaith adeiladu, cynlluniau busnes, y ceisiadau grant ac ati yn waith cymhleth iawn ac a gymerodd cryn dipyn o amser, er y bu pawb yn hynod o gefnogol. Cychwynnwyd ar y gwaith adeiladu tuag at ddiwedd mis Tachwedd 03 ac roedd Pentre Bach yn barod (o drwch blewyn!) erbyn mis Ebrill 04 am fis o ffilmio. Yn ogystal, bydd gwaith ffilmio’n cael ei wneud ym Mhentre Bach ym mis Ebrill ac ym mis Medi 2005.

“Yn ogystal â’r elfen ffilmio, byddwn yn cynnig llety o ansawdd y gellir ei archebu fesul unedau unigol neu fel pentref cyfan at ddibenion ffilmio, cynadleddau ac ati. Yn drydydd, bydd Pentre Bach yn atyniad diwylliannol. Caiff yr holl nwyddau a’r gwasanaethau ar gyfer y tri gweithgarwch gwahanol eu darparu’n lleol.

“Byddai’n wych ysgogi gweithgareddau eraill yn yr ardal. Gall teuluoedd a theithiau ysgol ymweld â’r safle a’r gobaith yw y gellir creu neuadd bentref trwy ymestyn sied ar frig y ffordd. Yn ogystal, bydd y gymuned gyffredinol yn gallu defnyddio hon i gynnal digwyddiadau megis etholiadau – gorsaf bleidleisio, cyfarfodydd ac ati. Mae’n chwifio braich i fyny’r ffordd, “Mae melin ddw^r i lawr y ffordd. A wyddoch chi yr arferai 60% o’r holl bobl leol weithio yn y diwydiant gwneud hetiau ar gyfnodau penodol yn ôl cofnodion bedyddiadau y Methodistiaid Calfinaidd (mae Adrian yn mynd i’w gar i gasglu’r hen ddogfennau hyn). Bydd y wefan yn cynnwys hanes lleol a bydd pobl yn gallu dysgu am yr amaethyddiaeth, y bobl sydd wedi bod yn byw yma dros y blynyddoedd a hefyd, gellir gweld y synergedd rhwng y bobl leol heddiw a’r hyn y gallant ei gynnig. Gall y cyfan oll fod yn brofiad hudolus yn yr un modd â’r 52 o episodau 15-munud y mae Ifana wedi’u creu. Peidiwch â chredu mai dim ond hen bethau y byddwn yn eu gwneud, mae gennym rai syniadau technolegol modern iawn hefyd a fydd yn cyd-fynd â’r rhai hy^n. Bydd y profiad a gynigir yma yn brofiad diwylliannol ac addysgiadol cyfoethog ond bydd yn llawer o hwyl hefyd.”

Mae gw^r ifanc o Newcastle sy’n aros yn y maes carafannau gerllaw yn cerdded heibio gyda’i blentyn ifanc, sy’n cael ei ddenu gan adeilad lliwgar dyfeisiwr y pentref (Sied Bili Bom Bom) “Beth yw’r lle hwn?” mae’n gofyn. “Mae’n bentref Teledu, mae Adrian yn esbonio. A ydych chi wedi clywed am Sali Mali, sy’n dipyn o eicon yng Nghymru?”

Mae Pentre Bach yn cynnwys Golchdy Jemeima Mop (ynghyd â’i chath, Whishgit), Ty^ Siani Flewog, Siop Parry Pob Beth, Gwesty Pili Pala, Caffi Sali Mali, Garej y Pry Bach Tew, Siop Sioni Bric–a-Moni, Ty^ Nicw Nacw a Thy^ Sali Mali (ac mae mwy). Mae bandstand yn y pentref ac mae’r adeiladwyr lleol yn parhau i fod yn brysur yn adeiladu’r caffi, felly mae’r weledigaeth yn dechrau dod i’r amlwg. Mae Adrian yn gobeithio y caiff 5 swydd lleol eu creu yn ogystal â’r gwaith a grëwyd yn lleol yn ystod y cyfnod o adeiladu Pentre Bach ac wrth ffilmio yno.

Mae Adrian yn esbonio bod llawer o benderfyniadau ar ôl i’w gwneud o hyd, megis oriau agor, yr hyn a gaiff ei werthu yng Nghaffi Sali Mali, y mathau o fannau chwarae ac ati

“Nid ydym am weld pobl yn cael eu gyrru trwy Pentre Bach ond yn hytrach, rydym yn dymuno cynnig profiad diwylliannol, addysgiadol a hwyliog go iawn iddynt – mor dda fel na chaiff unrhyw oedolion eu gadael i mewn heb gwmni!” Mae’n pwyntio at y safle y tu ôl i Gaffi Sali Mali, lle y bydd pobl yn gallu mwynhau te traddodiadol gyda rhai o bethau arbennig Pentre Bach. “Bydd bridiau gwartheg a defaid traddodiadol yn pori yn y cae hwn y tu ôl a bydd yr hen ffynnon yn cael i haddasu i fod yn ffordd o gasglu arian i elusen”

Mae hwn yn lle mor hapus a bywiog, meddai’n frwdfrydig ac yna, mae rhywfaint o hiraeth yn dod i’r amlwg,

Yn hytrach na’r math o gymdeithas sy’n dibynnu’n fwyfwy ar y wladwriaeth/defnyddwyr (Gesellschaft), mae ymdeimlad o gymuned ar ôl yn yr ardal hon o hyd (Gemeinschaft), ac rydym yn dymuno i’r rhai sy’n ymweld gael profiad o hynny tra y gallant.

Gofynnais am y grant a gawsant gan Amcan 1.

“Byddai wedi bod bron yn amhosibl gwneud hyn oll heb y grantiau, ni fyddai’r ansawdd na’r raddfa wedi bod yr un fath, a byddai wedi cymryd llawer mwy o amser. Ni fyddem wedi gallu sicrhau’r weledigaeth gyfan mewn arddull o’r fath. Bu modd defnyddio adeiladwyr, cyflenwyr nwyddau a gwasanaethau, contractwyr amaethyddol, actorion ac actoresau, gwesty a gwasanaethau arlwyo lleol – sy’n rhoi arian yn ôl i’r economi lleol. Rydym wedi bod yn ddigon ffodus i gael grantiau gan WDA a Bwrdd Croeso Cymru. Rydym yn creu gwefan ar hyn o bryd ond am y tro, gallwch droi at http://www.salimali.tv/index2.htm ac rydym yn bwriadu agor ym mis Mehefin 2005.

Wrth i mi adael, mae Adrian yn dweud, “Cofia ymweld eto. Dere â’r plant gyda ti”. Rwy’n nodio fy mhen, a byddaf yn gwneud hynny.


CLOSE WINDOW