|
|||
Amcan 1 yn Ariannu Dysgu Gydol Oes.
Hanes Phil Hughes, Cadeirydd Cyfeillion Bae Ceredigion
|
CRYNODEB: Ar draws Cymru gyfan, mae Amcan 1 yn helpu i ariannu mentrau dysgu gydol oes trwy gyfrwng prosiectau megis Prifysgol Haf Cymru (cwrs rhagflas yn ystod yr haf mewn Prifysgol, sy’n gallu arwain at astudio pellach); Cylched Gwyddoniaeth, labordy gwyddoniaeth symudol i ddysgwyr sy’n oedolion, a Dysgu Gyda’n Gilydd (sy’n targedu oedolion sy’n ddysgwyr mewn lleoliadau dan anfantais yng Ngheredigion). Ar draws Ceredigion, mae’r Brifysgol Haf, er enghraifft, wedi helpu cannoedd o fudd-ddeiliaid i fynd ati i astudio a datblygu eu gwybodaeth trwy ddefnyddio’r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd yn llwyddiannus. I nifer o unigolion, mae cyrsiau fel hyn wedi helpu i newid bywydau. Cychwynnodd Phillip Hughes, Cadeirydd Cyfeillion Bae Ceredigion ar gynllun tebyg yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae Phillip wedi llwyddo i sicrhau HND gan yr Adran Addysg Barhaus yn Aberystwyth ac mae wedi mynd ymlaen i gyhoeddi adroddiadau i’r llywodraeth am riffiau Ceredigion. Mentrodd Phillip i fyd addysg uwch pan oedd yn 38 oed. CYFWELIAD LLAWN (2005) Iawn, felly sut fyddech yn disgrifio eich profiad fel profiad gwahanol a sut mae’n cyd-fynd â dysgu gydol oes? Gadewais yr ysgol pan oeddwn yn 16 oed ac roeddwn yn eithaf deallus yn yr ysgol. Penderfynais fy mod wedi cael blas ar gefn gwlad erbyn i mi fod yn 14 oed ac roeddwn yn dymuno dianc cyn gynted ag y bo modd. Yna, gadewais fy nghartref. Yn gynnar iawn, roedd gennyf ddiddordeb mawr mewn llongau pysgota ac roeddwn yn teimlo’n gartrefol yn eu plith. Erbyn i mi fod yn 21 oed, roedd gennyf fy nhocyn i fynd ar gwch siarter ac roeddwn yn pysgota allan ar y môr. Nid oeddwn fyth wedi mynd i’r afael â phethau academaidd, ond erbyn i mi gyrraedd fy 30au cynnar, dechreuais deimlo nad oeddwn yn cyflawni’r hyn y gallwn ei gyflawni. Yn sydyn, roedd gennyf ddymuniad i addysgu fy hun. Roeddwn yn dwli ar y môr ac roeddwn yn dymuno dysgu mwy amdano.Mae’r adran yn y Brifysgol ~ Addysg Barhaus, bob amser yn cynnal modiwlau bach am wahanol bethau ac roeddwn yn dymuno rhoi cynnig ar fodiwl mewn bioleg morol.Roeddwn wedi gweld yr hysbysebion yn y papur, yn y Cambrian News, ac wedi meddwl nad oedd yn ymwneud â mi mewn unrhyw ffordd, nad oedd yn berthnasol, nad oeddwn yn gallu ei wneud, ei fod y tu hwnt i’m gallu, dyma oedd fy marn ar y pryd.Bum yn ddigon dewr i roi cychwyn ar y modiwl hwn mewn bioleg morol a chyfraith a chynllunio amgylcheddol. Os byddwn yn llwyddo i basio, byddwn efallai yn ystyried rhoi’r gorau iddo. Roedd y rhain yn fodiwlau 15 wythnos ar y pryd. Cyrhaeddodd y marciau o’r diwedd ac roeddwn wedi sicrhau 69% mewn Cyfraith Amgylcheddol a Chynllunio. Ac arhosais. Felly dywedwch rywbeth wrthyf am y cwrs a ddilynoch. Roedd yn system fodiwlar, rhannau o Ddiploma Cenedlaethol Uwch (HND), os byddwn wedi dilyn 12 modiwl yn unig, gallwn fod wedi sicrhau HND ar yr adeg honno, oll wedi’i seilio ar Wyddoniaeth. Rydw i bellach wedi cwblhau 24 modiwl, Ystadegau, popeth. Erbyn hyn, rydw i wedi sicrhau HND. Pryd gychwynnoch chi ar y cwrs hwn? 2000 rydw i’n meddwl. Roedd yn rhoi llawer o bethau i mi ar y pryd; dechreuodd roi hyder i mi unwaith eto. Roedd yn brofiad gwych dysgu pethau’n gywir a chael rhywun yn dangos pethau yr oedd modd eu deall yn gyntaf ac yn ail, llwyddo i sicrhau marciau rhesymol. Dros y 2 flynedd ddiwethaf, llwyddais i ddatblygu fy ngallu i ddefnyddio cyfrifiadur yn gymharol dda. Felly sut mae’r cwrs hwn wedi helpu eich gyrfa? Yn rhyfedd iawn, gwelais lythyr yn y papur gan y diweddar Monroe Taylor, un o sylfaenwyr Cyfeillion Bae Ceredigion, a oedd yn chwilio am waed newydd i wneud gwaith ymchwil ar gyfer y Sarnau yma. Rydw i wastad wedi ymddiddori yn y rhain. Beth bynnag, ysgrifennais lythyr ato a ymhen dim o beth, roeddwn yn rhan o Fae Ceredigion ac yn treulio amser allan ar y cwch. Marianau rhewlifol yw’r Sarnau sy’n rhedeg allan i’r môr, gelwir yr un ger Aberystwyth yn Sarn Confelin, maent yn gymysgedd o glogfeini, cerrig crynion a chreigiau, pethau fel hynny, malurion sydd wedi golchi yno, ac maent yn ymestyn 7 milltir allan i’r môr. Ac rydw i wastad wedi rhyfeddu ar y rhain, oherwydd nid oes llawer o waith wedi cael ei wneud amdanynt, yn enwedig yma. Bu farw Monroe o drawiad ar y galon yn annisgwyl iawn, a chefais fy ethol yn Gadeirydd y sefydliad. Ac yn gyflym iawn, bu’n rhaid i mi ymgymryd â’r gwaith ymchwil yn y sefydliad. Cyfarfodydd llywodraethol gyda CCGC, felly roedd hynny’n brofiad brawychus i ddweud y gwir. Mae’n siðr! Felly bum yn ysgrifennu ein hadroddiad ymchwil cyntaf, ac nid oes unrhyw adroddiad o’r fath erioed wedi cael ei ysgrifennu am Sarn Confelin, ac rydw i newydd gael y fersiwn cyhoeddedig gan CCGC. Caiff ei gyflwyno trwy wahanol brif bartneriaid neu beth bynnag, i’r Llyfrgell Genedlaethol. Beth yw prif fyrdwn y gwaith ymchwil ar y Sarnau hyn? Mae llawer o'n gwaith yn astudio dolffiniaid trwynbwl ac roedd hwn yn ystyried Sarn Confelin yn arbennig fel ardal lle y mae’r dolffin yn chwilota ar adegau llanwol penodol, crynhoad o anifeiliaid sy’n manteisio ar y cynefin hwnnw fel adnodd bwydo. Ac mae gennym ddiddordeb mewn ystyried y cydberthyniad hwnnw, amseroedd llanwol, ac ystyried rhywogaethau ysglyfaethu, ar y riff. Mae CCGC yn dymuno cael gwybod oherwydd bod hyn oll yn ymwneud â rheolaeth gyffredinol SSE’s. Yn y cyfamser, bum yn casglu’r holl blymwyr lleol a’r brifysgol at ei gilydd i gychwyn ar y gwaith hwn. Nid yw cynnwys biolegol y dref brifysgol hon wedi cael ei ystyried yn gywir. A yw hwn yn cyfateb â’r gwaith ymchwil diweddaraf? O ran y dolffin trwynbwl, mae’n golygu mynd allan yno a chwilio amdanynt, ac yna, eu harsylwi. A dim ond dros gyfnod o amser y gallwch ddechrau ffurfio patrwm, fel y gwnes y llynedd, dechreuais nodi mannau amlwg ar y riff, lle y byddem yn dod ar eu traws yn gyson ar wahanol adegau, yna byddwn yn cyfuno hynny gyda’r arolwg ‘Benzonics’, sy’n arolwg ffisegol gan y plymwyr ar y gwaelod. Ar brydiau, gallwn gofnodi ar ffilm yr hyn sydd ganddynt yn eu cegau. Mae’r gwaith hwn yn unigryw. Nid oes llawer iawn o wybodaeth, gwybodaeth lawn am yr hyn y mae’r anifeiliaid hyn yn ei fwyta yn yr ardal hon, ac mae’n amlwg ei fod yn hanfodol i’r ffaith eu bod yn defnyddio’r ardal hon yn barhaus, oherwydd dim ond 2 grðp ohonynt a geir sy’n drigiannol, mae un yn Moraine Firth ac mae un yma, felly mae angen i chi wybod. Gan eu bod yn anifeiliaid uwch, os byddent yn diflannu yn sydyn, byddai hynny’n golygu bod problemau difrifol yn bodoli. Y drafferth yw, os byddwch yn cael y problemau hynny, mae hi’n rhy hwyr. Mae 2 ochr i hyn, y mae’r llall yn ymwneud ag ystyried cynnwys biolegol y riff. A ydych yn credu y byddwch yn mynd ymlaen i gwblhau’r radd? Wel byddwn yn hoffi dweud y byddaf yn mynd ymlaen i’w chwblhau, i ddweud gwir, gofynnodd Deon y Brifysgol i mi a fyddwn yn gwneud hynny.Os na fyddech wedi dilyn y cwrs, beth fyddech yn ei wneud nawr yn ôl pob tebyg?Dim syniad. Rydw i’n credu mewn ffawd weithiau, ac rydw i’n credu fy mod yn gwneud yr hyn y dylwn fod wedi bod yn ei wneud ar hyd yr amser nawr, oherwydd dyma’r pwnc y mae gennyf ddiddordeb mawr ynddo, ac rydw i wedi dilyn y llwybr hiraf i gyrraedd fan hyn i raddau. NI fyddwn yn gallu ei wneud heb yr addysg a gefais. Yn ystod un o’r cyfarfodydd llywodraethol cyntaf y bu’n rhaid i mi ei fynychu, roeddwn yn gorfod rhoi araith am yr hyn yr oeddwn wedi bod yn ei wneud yn ystod y flwyddyn honno. Roedd athrawon cadeiriol yno o bob cwr o’r wlad, o bob cwr o Ewrop ac roedd yn rhaid i mi ddweud rhywbeth am fater nad oeddwn yn gwybod unrhyw beth amdano. Roedd yn brofiad brawychus iawn ar y dechrau. Ond rydych yn gyffyrddus yn y rôl hwnnw erbyn hyn? Ydw, yn fawr iawn. Mae’n golygu meddu ar yr iaith i gyfathrebu hefyd onid ydyw? Rydw i’n ei fwynhau hefyd oherwydd fy mod yn dod o ddwy ochr y ffens i ryw raddau. Beth am eich cyfoedion ar y cwrs? Roedd 18 ohonom ar y cwrs yn wreiddiol, a gwelwyd y cyfanswm hwn yn gostwng i 6 cyson yn eithaf cyflym. Dyna’r peth gwych am y cwrs hwn ~ dosbarthiadau bach, athrawon brwdfrydig ac roedd amser ganddynt. Cefais wybod yn yr ysgol nad oeddwn yn dda mewn mathemateg, ond roeddwn yn gallu trin ystadegau yn dda ar y cwrs hwn, rydw i’n credu bod hyn oherwydd y dangoswyd i mi sut i'w wneud yn gywir. Hyd yn oed pe byddwn wedi dilyn yr un modiwl hwnnw yn unig ar fioleg môr yr oedd gennyf ddiddordeb ynddo, byddai wedi bod yn ddigon. Nid oeddwn fyth yn meddwl y byddwn yn parhau. Roedd 4 blynedd yn ymddangos yn amser hir, ond dyma fi heddiw. Capsiwn ar gyfer y Llun: Phillip Hughes, rhywun sydd wedi manteisio ar Ddysgu Gydol Oes yng Ngheredigion. DIWEDD |