\
Photograph of the owners of the Old Garage in Goginan
photograph of the glass plates on show in the Old Garage of Goginan photograph of the outside of the premises at the Old Garage photograph of the showroom interior

STIWDIO GWYDR LLIW YN DISODLI YSTAFELL ARDDANGOS CEIR

Bellach, mae gan "Yr Hen Garej", ag iddo enw addas, bluen arall yn ei het, gan ei fod yn cyflenwi gwydr lliw, yn adwerthu a cheir yno weithdy gyda thiwtoriaid. Yn yr Hen Garej, fe ddewch o hyd i bopeth sydd angen arnoch o ran gwydr lliw - ar gyfer amaturiaid a phobl broffesiynol. Maent yn cadw gwydr a wnaed â llaw o bedwar ban byd ynghyd â gwydr lliw mwy traddodiadol ac mewn arddull eglwys gadeiriol.

Sefydlodd Julie Farrington a Richard Sanders y busnes chwe mis yn ôl, a hynny wedi iddynt dderbyn gwobr Menter Amcan 1. Daw Richard o gefndir cyfrifiadurol, ac mae ganddo 25 mlynedd o brofiad fel dadansoddwr a rhaglennydd. Cyfarfu â Julie a bu i'w diddordeb hithau mewn cynhyrchu gwydr gael gafael ynddo.

Medd Julie,

"Fe ddechreuodd fel rhywbeth i'w wneud gyda'r hwyr ac fel hobi. Yna, adeiladodd Richard weithdy yn y gegin a dechreuais werthu darnau yn y gweithle. Oherwydd i'n cyflenwad gwydr ddod i ben un diwrnod, ac o glywed nad oedd unrhyw un yn yr ardal yn ei gyflenwi a bod y posibiliad agosaf 17 milltir i ffwrdd, penderfynasom agor ein siop gyflenwi gwydr ein hunain. Fodd bynnag, i fod o ddifrif am eiliad, ni, bellach, yw'r unig gyflenwyr yn y sir."

Dywed Richard,

"Rydym yn gwneud llawer o waith trwsio i bobl ac fel comisiwn. Y cais mwyaf anarferol oedd cynhyrchu landrofer melyn mewn gwydr lliw i rasiwr landrofers brwdfrydig. Rydym hefyd yn darparu cyrsiau a gynhelir drwy'r flwyddyn ar gyfer dechreuwyr a'r rheiny sy'n dymuno gwella eu sgiliau. Ceir gweithdy enfawr lawr grisiau, ac mae llawer o'r gwaith a wneir yn ystod y cyrsiau yn gwbl wych. Rydym hefyd yn llogi ein cyfleusterau i artistiaid."

Mae rhan o'r ganolfan wedi ei neilltuo ar gyfer hyrwyddo a gwerthu crefftwaith a wnaed gan artistiaid lleol, gan gynnwys crochenwaith, paentiadau, dodrefn, gwaith turnio, chwythu gwydr, canhwyllau a sebonau yn ogystal â gwydr lliw. Am ragor o fanylion, ewch at www.theoldgarage.co.uk neu ffoniwch 01970 880900.

CLOSE WINDOW