Swyddi a Grewyd
Mae’r wefan hon yn gofnod hanesyddol o Raglen Amcan Un 2000 – 2008 yng Ngheredigion (ac fel y cyfryw mae’n segur erbyn hyn). Am ymholiadau ynglŷn â chyllid Ewropeaidd cyfredol cysylltwch ag ewro@ceredigion.gov.uk.
Ers 2000, crëwyd oddeutu 849 o swyddi yng Ngheredigion gan brosiectau Amcan 1. Ym mis Chwefror bu i WEFO adrodd y crëwyd 2759 o swyddi yng Ngheredigion drwy brosiectau rhanbarthol. Y mae ambell unigolyn wedi cael mantais uniongyrchol o greu swyddi yng Ngheredigion.

Cliciwch yma er mwyn gwneud y graff swyddi a grewyd yn fwy o faint>>
Caiff Prosiectau Rhanbarthol eu creu lle y mae mwy nag un sir yn rhedeg cronfa, er enghraifft rhoddir arian Amcan Un i Fwrdd Croeso Cymru a gall mwy nag un sir wneud cais am arian. Prosiectau lleol yw'r rheiny sydd ond yn rhedeg yn y sir.
Cliciwch yma er mwyn gwneud y graff yn fwy o faint>>
Mae'r holl ddata a ddefnyddir gennym yn dod o Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru drwy ddata monitro chwarterol a ddefnyddir i ddiweddaru ein gwybodaeth ar y we a'n graffiau. Mae'n bosib fod rhwyfaint o'r wybodaeth yn anodd i'w ddadansoddi fel y rhestrir isod rhai o'r problemau data posib a all god.
- Swyddi Anuniongyrchol
Diffiniad: "Y mae swydd anuniongyrchol yn un na ellir ei chlustnodi'n benodol yn ystod oes y prosiect y mae'n gysylltiedig ag ef. Er enghraifft y mae ffatri twristiaeth yn ymestyn drwy ddefnyddio arian strwythurol ac y mae angen i gwmni lleol benodi staff newydd o ganlyniad i gynnydd mewn busnes. Mae'n bosib cyfrif y swyddi yma ar sail cynnydd mewn gwariant twristiaeth.""
C: Ydych chi'n cynnwys creu swyddi yn anuniongyrchol yn eich ffigyrau ar y wefan hon?
A: Pan nodir gwybodaeth ar nifer y swyddi a grëwyd ac a ddiogelwyd ar brosiectau Amcan 1 lleol, nid yw'r ffigyrau yma'n cynnwys swyddi anuniongyrchol. Er na ellir clustnodi swyddi anuniongrychol yn ystod oes y prosiect, maent yn gysylltiedig ag ef. Am fwy o wybodaeth ar sut y caiff y nifer yma eu creu dylech ymweld ag Adain Stategau gwefan Cyngor Sir Ceredigion.
- Swyddi a ddiogelwyd
Diffiniad: "Swyddi a ddiogelwyd yw'r rheiny y byddai wedi eu colli petai arian Amcan ddim ar gael."
C: A ddisgrifir swyddi a ddiogelwyd o gwbl fel swyddi a grëwyd?
A: : Na, Lle y mae gennym bennawd yn ein graffiau o’r enw swyddi a grëwyd nid yw’r ffigwr yma’n cynnwys swyddi a ddiogelwyd.
- Swyddi a Grëwyd
Diffiniad: "Swyddi a grëwyd yw'r rheiny sydd ar gael yn barhaol. Ni cheir oes penodol iddynt neu gellir disgwyl y byddant yn para am o leiaf 10 mlynedd. Gallant fod yn swyddi uniongyrchol neu anuniongyrchol."
C: Sawl awr yr wythnos yw swydd amser llawn yn ôl yr hyn a gyfrifwyd gennych?
A: Y mae swyddi llawn amser yn cynnwys 30 awr yr wythnos neu fwy. Y mae hyn yn gyson ar draws ein data i gyd, ( rydym yn defnyddio’r un meini prawf â WEFO).
- Ffigyrau swyddi isranbarthol
Diffiniad: "Nodir ffigyrau isranbarthol yn data ranbarthol Ceredigion lle y mae Ceredigion yn bartner arweiniol ar brosiect rhanbarthol a phrosiectau y tu allan i'r sir er mwyn eu cynnwys yn y ffigyrau."
C: Ydy cael prosiectau rhanbarthol lle y mae Ceredigion yn arwain yn golygu y gall swyddi o siroedd eraill ar y prosiect penodol hwnnw gael eu cynnwys yn ffigyrau rhanbarthol Ceredigion?
A: Ydy, ond dim ond canran fach o ffigyrau prosiect rhanbarthol sy’n cynnwys ffigyrau prosiect isranbarthol (dim ond lle y mae Ceredigion yn arwain ac ychydig iawn o achosion yw hynny).
Hafan || Cwestiynau || Newyddion || Y Gwir Storiau || Swyddi a Grewyd || Arian a Wariwyd || Prosiectau Cymeradwy || Bwrdd Partneriaeth || Dogfennau Perthnasol || Cronfeydd UE 2007-13 || Clipiau Ffilm Prosiectau || Galeri Lluniau Prosiectau || Cysyslltiadau defnyddiol || Manylion Cyswllt ||Tywydd yn Aberteifi || Tywydd Yn Llambed || Tywydd yn Aberystwyth ||Webmaster || Map o brosiectau ||Intro || English

HTML || Adeiladwyd y safle gan ddefnyddio CSS Positioning || Cydymffurfio gyda Mynediad lefel 3 || Tudalennau a Ddilyswyd



