|
| Wyneb Newydd Prosiect Aber yr afon Teifi, Aberteifi
|
Penodwyd swyddog prosiect newydd, sef Jim Evans o Drefdraeth, Sir Benfro, fel rheolwr prosiect ar gyfer Cynllun Rheoli Amgylcheddol Aber yr Afon Teifi. Derbyniodd Gynllun Teifi £1.1m o arian Amcan 1 i’w gyfrannu at gyfanswm cost y cynllun o £2.5m. Y mae cefndir Mr Evans yn y maes Ymgynghori ar ôl iddo ennill Gradd mewn Peirianneg Fecanyddol yn Lerpwl. Bu hefyd yn gweithio fel rheolwr prosiect ar nifer o gynlluniau yn ymwneud â’r môr gan gynnwys ailddatblygiad Porth Dubrovnik, Cynllun Llongau Fferi yn Ynysoedd y Shetland, asesiad Bwrdd Croeso Cymru o ddichonolrwydd Cymru fel cyrchfan Mordaith ac astudiaeth i sefydlu terfynfa mordaith newydd ar gyfer Forth Ports. Dywedodd Mr Evans, a fydd yn ymuno â Thîm Gweithredu Aber yr Afon Teifi yn fuan; “Mae gen i flynyddoedd lawer o brofiad yn ymwneud â rhaglenni sydd yn cynnwys nifer o bartneriaid gwahanol, oll â nodau ac amcanion gwahanol. Mae gen i ddiddordeb personol a phrofiad yn ymwneud â materion amgylcheddol, ac rwy’n berchennog ar 21 erw o hen goetiroedd. Rwy’n edrych ymlaen at y sialens o allu cyflawni canlyniad amgylcheddol cadarnhaol i ddatblygiad y materion yma o fewn Aber yr Afon Teifi.”
|
|