The Golf Course

Fenton Allen

Junior Golfers

Stunning views of Cardigan Island

GWYLIAU GOLFF GAN GYNNWYS LLETY A STRATEGAETH DRAWIADOL I GYMRU GYFAN

Crynodeb

 

Mae Clwb Golff Aberteifi wedi'i leoli ym mhentref bychan Gwbert yng Ngheredigion.  Mae’r cwrs yn ymdonni ar hyd yr arfordir, gydag Ynys Aberteifi yn bresenoldeb mawreddog yn y cefndir.  Mae Fenton Allen, Cadeirydd ac un o sylfaenwyr Golf in Wales, yn sôn am ei brofiadau gydag Amcan 1, ar ôl cael grant prosiect rhanbarthol (Cynllun Cynorthwyo Buddsoddiad) gan Fwrdd Croeso Cymru i ehangu’r Clwb.  Roedd y prosiect cyfan yn costio £230,000, a chafwyd grant Amcan 1 o £70,000.  Agwedd ddiddorol arall ar y clwb yw’r cyfleuster Golff Iau newydd sy’n rhan o’r cwrs, sy’n cynnwys pyllau tywod bach a chynigir dosbarthiadau Sadwrn, yn ogystal â’r cyfle i ysgolion ymweld, lle y cynigir gwersi.  Mae’r prosiect wedi creu 5 swydd barhaol yn lleol ac mae wedi denu mwy o ymwelwyr i’r ardal.  Mae’r clybiau yn Golf in Wales oll yn cydweithio’n agos gyda’u gwestai cysylltiedig i ddarparu profiad golff cofiadwy, sy’n ehangu’r fasnach dwristiaeth.  Efallai bod strategaeth Fenton ar gyfer twf yng Ngheredigion yn fodel defnyddiol i bawb sy’n meddu ar fusnesau twristiaeth yno;  “Os byddai pob ymwelydd posibl a fyddai’n gallu cyrraedd Aberteifi mewn diwrnod a gadael yr un diwrnod yn gwneud hynny, ni fyddai digon o ymwelwyr ac mae hon yn un o’r problemau yr ydym yn ei hwynebu.  Os byddwch yn tynnu cylch o gwmpas Aberteifi, gan ddiffinio’r pellter y gall pobl deithio, mae hanner y cylch dan y dðr ac mae’r hanner arall tuag at Ganolbarth Cymru, ac mae honno’n ardal denau ei phoblogaeth.  Felly at ei gilydd, yr unig ffordd y gallwn sicrhau bod twristiaeth yn llwyddo yw trwy ddenu pobl o’r tu allan i Geredigion y bydd angen iddynt ddod i aros, felly mae llety yn hollbwysig.”  (Fenton Allen).  

 

Cyfweliad llawn:
Iawn, felly soniwch ychydig am y grant a gawsoch a sut y llwyddwyd i’w sicrhau.
Roedd y clwb wedi llosgi’n ulw ym 1975 ac adeiladwyd un newydd.  Newidiodd y byd rhwng 1974 a 2004.  Roedd nifer y bobl wedi dyblu;  roeddem yn ymwneud â thwristiaeth, oherwydd ystyriwyd bod Clwb Golff Aberteifi yn fwynder twristiaeth go iawn, a neilltuwyd llawer iawn o arian ac ymdrech i’r gwaith o ddenu ymwelwyr.  Roedd angen i ni sicrhau bod pobl mewn cadair olwyn yn gallu manteisio ar y safle hefyd.  Rwy’n credu mai’r peth mwyaf sydd wedi newid yw’r disgwyliadau uwch yn gyffredinol.  Nid yw pobl yn fodlon derbyn cyfleusterau israddol.  Maent yn dymuno cael ansawdd drwy’r amser.  Aethom at Fwrdd Croeso Cymru, a ddywedodd y gallem gael cymorth grant Amcan 1 trwy gyfrwng y Bwrdd, yn hytrach nag yn uniongyrchol.
Allwch chi gofio enw’r grant a gawsoch a diben yr arian?

Enw’r grant oedd y Cynllun Cynorthwyo Buddsoddiad.  Roedd yn rhaid i ni baratoi cynllun busnes a oedd yn canolbwyntio ar dwristiaeth a’r gwasanaeth a gynigiwn.  Nid oes modd ehangu’r aelodaeth mewn gwirionedd;  ni cheir niferoedd mawr o bobl yng Ngheredigion, felly mae’n rhaid i chi ganolbwyntio ar dwristiaeth.  Nod ein cynllun busnes oedd datblygu’r elfen dwristiaeth cyn gynted ag yr oedd modd.  Aethom ati i ffurfio cymdeithas o Glybiau Golff o’r enw Golf in Wales.  Os byddwch yn troi at golfinwales.org, mae’r wefan yn cynnwys yr holl wybodaeth amdano ond yn fras, mae gennym oddeutu 15 clwb a 3 neu 4 gwesty, ond mae 7 o’r clybiau hyn yn ddarparwyr llety ta beth.


Felly mae’r ymwelwyr yn dod yma trwy gyfrwng archebion llety nawr?
Yn syml, ydynt.  Mae Gwesty Cliff, sydd wedi’i gynnwys yn Golf in Wales, yn siop-un-stop ar gyfer gwyliau golff.  Os byddwch yn cysylltu â Gwesty Cliff, byddant wedi cynnwys y gost o ddefnyddio Clwb Golff Aberteifi, yn ogystal â chlwb golff Trefdraeth a Phenrhos, yn eu prisiau.”

Felly dyma’r strategaeth a luniwyd gennych? Ie, cyflwynwyd hon i Fwrdd Croeso Cymru ac aethom ati i lunio Golf in Wales ein hunain, ac mae’n mynd yn dda iawn i ddweud y gwir;  erbyn hyn, mae clybiau yr holl ffordd i lawr yr M4 a’r holl ffordd i fyny i Borth, yn ogystal â chlwstwr yn y Canolbarth, yn rhan o’r cynllun.  Derbyniwyd ein cynllun busnes, gan wella’r hyn a elwir y “Profiad Golff”.


Beth yn union yw’r Profiad Golff?
Wel, o'r cyswllt cyntaf, byddwch yn cael gofal cywir trwy’r dderbynfa ac allan i’r cwrs golff.  Caiff rhywun eu tywys yn ôl i fariau a chyfleusterau arlwyo o’r ansawdd uchaf.  Mae ystafelloedd newid o’r ansawdd gorau, ynghyd â bwyty a chyfleusterau lolfa/bar, yn elfennau sy’n gysylltiedig â thwristiaeth, sy’n fwy na fyddai’n angenrheidiol ar gyfer aelodau’n unig.  O ran rheoli lle, ceir 3 i 4 man cymdeithasol, i reoli llif yr ymwelwyr a’r aelodau.


Faint o amser aeth heibio rhwng ymgeisio a chael cymeradwyaeth ar gyfer y prosiect?
Amser hir, oherwydd mae’n rhaid i chi ddylunio a chynllunio’r adeilad, ac roedd yn rhaid i’r Awdurdod Lleol basio hwn.  Roedd yn rhaid i ni sicrhau caniatâd cynllunio lleol i gael y ffordd yn glir.  Yn ogystal, roeddem yn dymuno sicrhau bod pobl mewn cadair olwyn yn gallu defnyddio’r safle, ac mae hyn oll yn cymryd amser, ond nid oeddwn yn teimlo bod Bwrdd Croeso Cymru ar ei hôl hi mewn unrhyw ffordd.  Cwblhawyd y gwaith fis diwethaf, Mehefin/Gorffennaf 04.  Cychwynnwyd ar y gwaith adeiladu ym mis Mai 03, ond yn ystod y 18 mis cyn hynny, roeddem wedi cynnal trafodaethau llawn gydag un o ymgynghorwyr Bwrdd Croeso Cymru.  Treuliwyd llawer o amser yn trafod syniadau.


Beth am y swyddi a grëwyd?
5 swydd dros 3 blynedd, rhan-amser a dros dro.  Mae’r swyddi ar y glaslawr, yn y bwyty, yn y bar ac yn yr adran weinyddol.  Mae’r adran weinyddol yn cynnwys staff glanhau, staff gwasanaethu a staff cynnal a chadw.


Iawn, felly beth mae’ch busnes chi wedi’i gyflawni i’r diwydiant twristiaeth yn yr ardal hon yn eich barn chi?
Wel, rydym wedi gweld y sefyllfa’n newid o absenoldeb busnes twristiaeth i oddeutu gwerth £50,000 mewn ffioedd ymwelwyr, a thrwy gyfrwng Golf In Wales a’r gwaith i ddatblygu’r clwb, gwelsom gynnydd o oddeutu 30% yn nifer yr ymwelwyr o'i gymharu â’r nifer y llynedd.  Nid ydym yn mynd i gynnal y raddfa honno, ond gobeithiwn ddyblu’r ffigwr o £50,000 mewn gwirionedd.


Felly mae wedi bod yn llwyddiant?
Ydy.  Fel y soniais, yr unig ffordd y gallwn sicrhau llwyddiant ym maes twristiaeth yw trwy ddenu pobl o’r tu allan i Geredigion a Chanolbarth Cymru y mae angen iddynt ddod yma i aros, felly dyma pam bod llety yn hollbwysig.  Byddwn yn dweud y gwelwyd cynnydd eithaf sylweddol yn nifer y bobl sy’n dod yma am y dydd, ond os byddai’n rhaid i mi nodi tuedd yn y farchnad, byddwn yn sôn am y Gwyliau Golff.
Mae pobl wedi dod o’r gororau a Birmingham, a chyn belled â Llundain, oherwydd mae Golf In Wales wedi ffurfio’i wefan ei hun, sy’n cyfeirio’r defnyddiwr at y gwesty a’r safle golff angenrheidiol yn yr ardal o’u dewis.  Felly byddwn yn ceisio darparu siop-un-stop ar gyfer gwyliau golff o ansawdd mewn gwesty o’r radd flaenaf, sy’n cynnwys cwrs golff ardderchog a chyfleusterau cyfatebol o’r safon uchaf.


Felly o ran yr adeilad, rydych wedi ymestyn y tu blaen a’r cefn?
Roedd y clwb sylfaenol yn lolfa a bar ac roedd ystafell newid y Menywod a’r Dynion i un ochr.  Yng nghefn yr ystafell fwyta, roedd y gegin, y seler ac roedd fflat y stiward uwch ben.  Erbyn hyn, gallwch weld estyniad, sy’n dyblu'r lle y tu mewn.  Ceir ail far, bar anffurfiol, lle y gall pobl gael diod heb iddynt orfod newid.  Dyblwyd ochr y Dynion.  Gosodwyd to ar ochr y Dynion ac mae bellach wedi creu lle ychwanegol i gynnal cynadleddau, i bobl sy’n dymuno cyfuno golff a chyfarfodydd.  Ceir paneli solar ar y to.  Un o nodweddion clybiau golff yw’r cynnydd enfawr yng nghyfanswm y dðr a ddefnyddir, ac wrth i nifer o bobl gael cawod ar yr adegau prysuraf, mae’r haul bellach yn gwresogi’r dðr i dros 40, felly dim ond cynhesu’r dðr o 40 i 60 y mae’r boeler yn gorfod ei wneud bellach, sy’n effeithiol iawn.


A gafwyd unrhyw broblemau gydag amcan 1, a fyddech chi’n newid unrhyw beth yn ei gylch?
Na, ddim felly, roedd yn wasanaeth ardderchog.  Sicrhawyd un peth arall trwy gyfrwng amcan 1, sef yr Academi Golff Iau.  Mae hyn yn golygu cyfleusterau ar gyfer Golffwyr Iau.  Gwnaethpwyd hyn trwy gyfrwng Cyngor Chwaraeon Cymru.  Mae gennym gyfleusterau ymarfer pytio, tsipio a dreifio i’r grðp oedran iau, yn ogystal â chwrs golff bach 7 erw.  Y diben yw cynnal eu diddordeb, oherwydd mae’n rhaid cychwyn gweithgareddau i bobl ifanc pan fyddant yr oedran cywir cyn iddynt ddiflasu.  Yr oedran gorau i annog plant i ymddiddori yw pan fyddant yn 10-11 oed.  Ar hyn o bryd, mae’r clwb yn cynnwys 80 o aelodau iau ac mae 12 ysgol yng Ngheredigion yn cynnig gwersi golff am ddim fel rhan o’u cwricwlwm.


Felly beth fu eich llwyddiant mwyaf ers i chi ehangu?
Wel, llwyddom i ennill gwobr Clwb Golff y Flwyddyn y llynedd, a oedd yn gystadleuaeth i glybiau golff ledled Cymru.  Seiliwyd hwn ar gyflwyniad o’r cwrs a’r clwb, materion amgylcheddol;  busnes a chyfathrebu a Golff Iau.  Cawsom wobr o £5,000, a oedd yn wych hefyd.

DIWEDD.