Menu Graphic Hafan Cwestiynau Newyddion Y Gwir Storiau Swyddi & Grewyd Arian a Wariwyd Prosiectau Cymeradwy Bwrdd Partneriaeth Dogfennau Perthnasol Manylion Cyswllt Cysylltiadau defnyddiol Cronfeydd UE 2007-13 Clipiau Ffilm Prosiectau Galeri Lluniau Prosiectau Map o brosiectau Tudalen Cyflwyniad English

Level Triple-A conformance icon, 
          W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0

Cychod yn gadael Gwbert Patch am Gei Aberteifi - Hwyl Aberteifi 2007

Cychod yn gadael Gwbert Patch am Gei Aberteifi - Hwyl Aberteifi 2007

-----------------------------

Ryland Teifi yn perfformio adeg lansio Cei Tywysog Siarl 2007

Ryland Teifi yn perfformio adeg lansio Cei Tywysog Siarl 2007

--------------------------


Derek Quinnell, ex rugby International Player at the Penrhos Golf and Country Club Launch 2006

Derek Quinnell (cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol) yn lansiad Maes Ymarfer Penrhos Mehefin 2006.

------------------------------

Junior Golfer at the Penrhos Driving Range on Launch Day June 06

Golffiwr Iau ym Maes Ymarfer Penrhos ar Ddiwrnod y Lansiad Mehefin 06.

------------------------------

BBC Wales Presenter Sara Edwards at the Llandysul Family Centre Expansion Launch

Cyflwynwraig BBC Wales, Sara Edwards, yn lansiad Ehangu Canolfan Deuluoedd Llandysul.

--------------------------

Ceredigion's Cabinet Member for Economic Development Councillor Eurfyl Evans meets Chinese Dignitary Mr Chen at Food Centre Wales in September 2006

Ceredigion's Cabinet Member for Economic Development Councillor Eurfyl Evans meets Chinese Dignitary Mr Chen at Food Centre Wales in September 2006

------------------------------

Cwestiynau

Mae’r wefan hon yn gofnod hanesyddol o Raglen Amcan Un 2000 – 2008 yng Ngheredigion (ac fel y cyfryw mae’n segur erbyn hyn). Am ymholiadau ynglŷn â chyllid Ewropeaidd cyfredol cysylltwch ag ewro@ceredigion.gov.uk.

Beth yw Amcan 1?

 

  • Arian Ewropeaidd a ddyfernir i’r ardaloedd hynny yn yr Undeb Ewropeaidd y mae eu Cynnyrch Domestig Gros yn is na 75% o’r cyfartaledd Ewropeaidd. Gyda’i gilydd, bydd y 15 ardal awdurdod lleol yng Ngorllewin Cymru ac yn y Cymoedd yn cael arian Amcan 1 a fydd yn werth dros £1.2 biliwn rhwng 2000 a 2006.
  • Prif ddiben Amcan 1 yw gwella ffyniant economaidd yr ardal yn y tymor hir. I gyflawni hyn, mae arian ar gael ar gyfer 6 maes gweithgarwch y rhoddir “Blaenoriaeth” iddynt:

    1. Ehangu a Datblygu Mentrau Bach a Chanolig
    2. Datblygu Arloesedd a’r Economi sy’n Seiliedig ar Wybodaeth
    3. Adfer Economaidd Cymunedol
    4. Gwella Sgiliau a Chyfleoedd Dysgu er mwyn Hyrwyddo Cyflogadwyedd
    5. Datblygiad Gwledig a Defnyddio Adnoddau Naturiol mewn ffordd Gynaliadwy
    6. Datblygiad Isadeiledd Strategol

    Pwy sy’n gallu gwneud cais?

Gall unrhyw gorff sefydledig o'r sector cyhoeddus, y sector preifat y sector gwirfoddol a’r sector cymunedol fod yn gymwys i wneud cais am arian Ewropeaidd.

Gall y sector preifat wneud cais am arian Amcan 1 yn uniongyrchol os gellir dangos y bydd y prosiect yn arwain at fudd economaidd ehangach i’r ardal. Fodd bynnag, mae’n fwy tebygol y bydd busnesau unigol yn manteisio ar arian trwy gyfrwng cynlluniau grant a weithredir gan gyrff cyfryngol.

Yn yr un modd, efallai y bydd cymdeithasau gwirfoddol yn ei chael hi’n haws manteisio ar arian Amcan 1 trwy gyfrwng cynlluniau grant a weithredir gan asiantaethau sy’n gweithio yn y sector.

Sut mae gwneud cais?

Y cam cyntaf yw cysylltu â’r Tîm Ewropeaidd am gyngor ynghylch y ffordd orau ymlaen. Os bydd eich syniad yn bodloni meini prawf Strategaeth Leol Ceredigion, byddwn yn cynorthwyo wrth ddatblygu’ch prosiect a llenwi’r ffurflen gais i’w chyflwyno i WEFO. WEFO sy'n asesu’r cais ar y cyd â’r Grwp Cynghori Thematig gan hysbysu’r ymgeisydd yn uniongyrchol o’i benderfyniad.

Gellir gweld gwybodaeth fanylach am y broses ymgeisio yn Nhaflen Ffeithiau 2004 sydd ar gael fan hyn neu gan y Tîm Ewropeaidd.

Beth fydd yn digwydd pan fydd yr arian yn dod i ben?


Gall prosiectau barhau i fanteisio ar yr arian a gymeradwywyd ar eu cyfer hyd at Fehefin 30ain 2008.

Mae rhai prosiectau, megis y rhai sy'n ymwneud â’r ddarpariaeth hyfforddi, yn cynnwys amserlen benodol. Nod rhai eraill, megis y rhai sy’n ymwneud â ffurfio busnes newydd, yw datblygu i fod yn hunangynhaliol, a byddant yn parhau i fod o fudd i economi’r Sir ar ôl i’r Rhaglen Amcan 1 ddod o i ben.

Wrth i 10 aelod-wlad newydd ymuno â’r Undeb Ewropeaidd ym mis Mai 2004, bydd y trefniadau cymorth ariannol yn newid. Dan gynigion presennol yr Undeb Ewropeaidd, mae’n debygol y bydd Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn parhau i gael oddeutu 74% o’r arian llawn ar gyfer y 6 blynedd ar ôl i’r rhaglen ddod i ben. Byddai hyn ar ffurf cyfansymiau a fyddai’n gostwng yn raddol, gan ddechrau gyda chyfanswm o 85% yn 2007 ac yn gostwng i 60% yn 2013.


 

Hafan || Cwestiynau || Newyddion || Y Gwir Storiau || Swyddi a Grewyd || Arian a Wariwyd || Prosiectau Cymeradwy || Bwrdd Partneriaeth || Dogfennau Perthnasol || Cronfeydd UE 2007-13 || Clipiau Ffilm Prosiectau || Galeri Lluniau Prosiectau || Cysyslltiadau defnyddiol || Manylion Cyswllt ||Tywydd yn Aberteifi || Tywydd Yn Llambed || Tywydd yn Aberystwyth ||Webmaster || Map o brosiectau ||Intro || English

Logo - Yr Undeb Ewropeaidd Amcan 1 a: Logo Cyngor Sir Ceredigion

HTML || Adeiladwyd y safle gan ddefnyddio CSS Positioning || Cydymffurfio gyda Mynediad lefel 3 || Tudalennau a Ddilyswyd