Menu Graphic Hafan Cwestiynau Newyddion Y Gwir Storiau Swyddi & Grewyd Arian a Wariwyd Prosiectau Cymeradwy Bwrdd Partneriaeth Dogfennau Perthnasol Manylion Cyswllt Cysylltiadau defnyddiol Cronfeydd UE 2007-13 Clipiau Ffilm Prosiectau Galeri Lluniau Prosiectau Map o brosiectau Tudalen Cyflwyniad English

Level Triple-A conformance icon, 
          W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0

Glan y cei adeg lansio Cei Tywysog Siarl 2007

 

Photograph showing the new Signs in CRAFTS railway platform premises, Aberystwyth

Y golwg newydd yn CRAFT (Tîm Ailgylchu a Dodrefn Ceredigion) yn Aberystwyth – Mai 2006, sydd wedi adnewyddu platfform y rheilffordd segur ar gyfer eu hadeiladau newydd. Derbyniodd CRAFT £1.4m o Gronfa Amcan 1.

-----------------------

Photograph of Sir Mansel Lewis at the Teifi Valley Railway' launch on their extended track and improved  visitor facilities.

Syr Mansel Lewis yn Lansiad Rheilffordd Dyffryn Teifi ym Mehefin 06. Derbyniodd y prosiect £11k o Grantiau Bwrdd Croeso Cymru a Grantiau Amcan 1 i Fusnesau Twristiaeth.

----------------------

Rhaglenni Cydweithredu

Tiriogaethol Ewrop

Cronfeydd UE 2007-13 || Cyllid Cydgyfeirio || Cynllun Datblygu Gwledig ||

Rhaglenni Cydweithredu Tiriogaethol Ewrop || Cronfa Pysgodfeydd Ewrop

RHAGLENNI TRAWSGENEDLAETHOL GOGLEDD-ORLLEWIN EWROP AC ARDAL YR IWERYDD

Mae Canllawiau Strategol Cymunedol y Comisiwn yn nodi y dylai Rhaglenni Trawsgenedlaethol ganolbwyntio ar faterion o bwysigrwydd strategol.

Gogledd-Orllewin Ewrop
Mae i’r rhaglen bedair prif Flaenoriaeth weithredol, sef Datblygu’r Economi NEWYDD sy’n Seiliedig ar Wybodaeth drwy Elwa ar Allu ar gyfer Arloesi, Rheoli Adnoddau Naturiol a Pheryglon Technolegol mewn Ffordd Gynaliadwy, Gwella Cysylltedd yng Ngogledd-Orllewin Ewrop drwy Hyrwyddo Datrysiadau Cludiant a TGCh Synhwyrol a Chynaliadwy a Hyrwyddo Cymunedau Cryf a ffyniannus ar lefel Drawsgenedlaethol. Mae cyfanswm y gyllideb ERDF yn debygol o fod oddeutu €350 miliwn. Cyfanswm y cymorth a roddir yw 50% o’r costau cymwys.  Yn fuan, caiff y Rhaglen ei chyflwyno i’r Comisiwn.  Lleolir yr Awdurdod Rheoli yn Ffrainc.  Bydd yr Adran Gymunedau a Llywodraeth Leol yn Llundain yn cydlynu ar ran y Deyrnas Unedig.

Ardal yr Iwerydd
Mae i’r Rhaglen ddrafft ffocws morwrol, ond nid ydyw’n canolbwyntio’n gyfan gwbl ar hyn. Y pedair Blaenoriaeth yw Hyrwyddo Rhwydweithiau Arloesi Trawsgenedlaethol, Sicrhau a Gwella Cynaladwyedd Amgylchedd y Môr a’r Arfordir, Gwella Mynediad a Chysylltiadau mewnol a Defnyddio Synergeddau Trawsgenedlaethol gyda Datblygu Rhanbarthol Trefol a Pholycentrig. Mae cyfanswm y gyllideb ERDF yn debygol o fod oddeutu €100 miliwn. Cyfanswm y cymorth a roddir yw 65% o’r costau cymwys. Lleolir yr Awdurdod Rheoli yn Porto. Mae WEFO yn debygol o arwain y rôl gydlynu yn y Deyrnas unedig. Fodd bynnag, erys y cyfrifoldeb cyffredinol yn nwylo’r Adran Gymunedau a Llywodraeth Leol yn Llundain.

Rhaglen Cydweithredu Trawsffiniol Iwerddon – Cymru 2007-2013

Mae Rhaglen Cydweithredu Trawsffiniol Iwerddon - Cymru yn gynllun datblygu saith mlynedd yn cychwyn yn 2007, a’i nod fydd datblygu’r economi gwybodaeth yn y rhanbarth drwy gynyddu arloesi a gwella sgiliau.  Bydd hefyd yn cefnogi prosiectau rhwng Cymru ac Iwerddon a fydd yn mynd i’r afael â newid hinsawdd, datblygu cynaliadwy ac adfywio cymunedol.  Bydd y rhaglen newydd yn adeiladu ar lwyddiant y fenter INTERREG IIIA gyfredol sydd wedi buddsoddi £33 miliwn yn ystod 2000-2006 ar ffurf grant ERDF mewn rhagor na 100 o brosiectau cydweithredol amrywiol.  Yr awdurdod rheoli ar gyfer y rhaglen newydd fydd Iwerddon.
Yr ardaloedd sy’n gymwys i gael eu cynnwys yn Rhaglen Cydweithredu Trawsffiniol Iwerddon-Cymru yw Dulyn, Canol Dwyrain Iwerddon a De-Ddwyrain Iwerddon, Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yng Nghymru.


Mae’r rhaglen ddrafft, a lansiwyd ar 14eg Rhagfyr 2006 yr ymgynghorir arni, ar gael i’w lawrlwytho ar www.wefo.wales.gov.uk.   Mae’r drafft yn amlinellu cynlluniau ar gyfer rhaglen fuddsoddi £47 miliwn (€70 miliwn) yn rhanbarth trawsffiniol Cymru/Iwerddon.

 

Hafan || Cwestiynau || Newyddion || Y Gwir Storiau || Swyddi a Grewyd || Arian a Wariwyd || Prosiectau Cymeradwy || Bwrdd Partneriaeth || Dogfennau Perthnasol || Cronfeydd UE 2007-13 || Clipiau Ffilm Prosiectau || Galeri Lluniau Prosiectau || Cysyslltiadau defnyddiol || Manylion Cyswllt ||Tywydd yn Aberteifi || Tywydd Yn Llambed || Tywydd yn Aberystwyth ||Webmaster || Map o brosiectau ||Intro || English ||

Logo - Yr Undeb Ewropeaidd Amcan 1 a: Logo Cyngor Sir Ceredigion

HTML || Adeiladwyd y safle gan ddefnyddio CSS Positioning || Cydymffurfio gyda Mynediad lefel 3 || Tudalennau a Ddilyswyd