Pan
aethoch ati i sicrhau'r arian, beth oedd yn digwydd yn CRAFT ar
y pryd?
Roedd CRAFT eisoes yn bodoli ac roedd gwir angen i ni symud, roedd
angen i ni sicrhau safle newydd.
Iawn,
felly pryd sefydlwyd CRAFT?
Sefydlwyd CRAFT 10 mlynedd yn ôl. Mae’n ailgylchu dodrefn,
eitemau trydanol a beiciau. Mae’n brosiect cymunedol; mae
ganddo nodau yn y sector amgylcheddol a’r sector cymunedol.
Felly
sut caiff ei ailgylchu, i ble y mae’n mynd a sut mae’r
holl beth yn gweithio?
Rydym yn darparu gwasanaeth i Geredigion gyfan, er ei fod yn canolbwyntio
ar yr ardal o fewn 10 milltir i Aberystwyth, ond rydym yn ehangu
a dyma un o’r rhesymau dros y prosiect hwn, er mwyn i ni allu
gwasanaethu mwy o’r boblogaeth yng Ngheredigion. Felly yr
hyn sy’n digwydd yw bod pobl, ac unigolion yw’r rhain
yn bennaf, yn rhoi pethau i ni nad oes eu hangen arnynt mwyach neu
nad ydynt yn dymuno’u cadw, a byddwn yn eu hasesu a’u
trwsio ar y safle, mae gennym weithdai ar y safle felly gallwn drwsio
eitemau y mae angen eu trwsio ac yna, sicrhau eu bod ar gael i bobl
ar incwm isel neu sy’n cael budd-daliadau. Ond er mwyn cynnal
sefyllfa ariannol gynaliadwy, rydym yn gwerthu nwyddau dros ben
i’r cyhoedd hefyd. Felly rydym yn wahanol i nifer o brosiectau
ailddefnyddio dodrefn oherwydd bod ein nwyddau ar gael i unrhyw
un mewn gwirionedd.
Yn
eich barn chi, a yw pobl Ceredigion yn ymwybodol o’r cynllun
hwn?
Wel, mae nifer o bobl yng Ngheredigion nad ydynt yn ymwybodol o’r
cynllun hwn. Roeddem yn pryderu ynghylch hysbysebu’r prosiect
hwn oherwydd ein bod wedi cael gwerth 2 filiwn o bunnoedd, gan gredu
y byddai’n peri i bobl feddwl nad oes angen eu cymorth arnom
bellach oherwydd ein bod wedi cael 2 filiwn o bunnoedd...ond nid
yw hyn yn wir o gwbl. Bydd bron yr holl arian a gawsom yn mynd i
dalu am eiddo ar ein cyfer; rydym wedi prynu’r orsaf reilffordd
wag yng nghanol tref Aberystwyth. Byddwn yn adnewyddu’r platfform
yno yn gyfan gwbl a chreu adeilad lle na cheir adeilad ar hyn o
bryd, dim ond wal a tho. Byddwn yn creu adeilad yno a fydd yn cyd-fynd
ag arddull yr Orsaf Reilffordd Fictoraidd sydd yno. Mae’n
adeilad gradd 2 rhestredig, felly bydd yn rhaid i ni fod yn ofalus
ac mae gennym safle ar ddiwedd y platfform hefyd, lle y byddwn yn
adeiladu gweithdy, lle y bydd yr holl waith yn cael ei wneud. Mae’n
ddatblygiad cyffrous iawn iawn. Bydd yn dangos bod ailddefnyddio
pethau yn rhan arferol o fywyd ac yn rhywbeth y mae pawb yn ei wneud.
Rydych yn mynd i’r parc adwerthu ac yna at CRAFT a byddwch
yn cael eich deunydd a fydd yn cael ei ailddefnyddio a’i ailgylchu.
Pa
fath o ddodrefn a dderbynnir?
Gallwn gymryd unrhyw beth y gellir ei ailddefnyddio, ni allwn dderbyn
dyfeisiau nwy, ond o ran eitemau trydanol, gallwn ddelio ag unrhyw
beth bron ac eithrio cwcerau, oherwydd nid oes gennym ddigon o gyflenwad
trydan i ddelio â’r rheiny yn yr adeilad hwn. Mae’r
cyngor yn berchen arno, ac ni chawn wneud rhai pethau ynddo, ni
chawn gymryd nwyddau trydanol, mae’n rhaid eu hanfon i’r
ganolfan ailgylchu, ond unrhyw beth arall, unrhyw beth! Mae’n
fwy na dodrefn yn unig, gallaf eich sicrhau bron y bydd unrhyw beth
y byddwch yn dod ar ei draws yng nghartref rhywun yn cyrraedd CRAFT
ar ryw adeg. Pob math o ddodrefn, teganau plant, gemau, llyfrau,
llestri, gallwn ddelio ag unrhyw beth o bethau agor tuniau i rewgell-rewgist.
Felly
nid yn unig eitemau y mae angen eu trwsio a roddir?
Wel, unrhyw beth y gellir ei ailddefnyddio. Ym marn rhywun, efallai
ei fod yn hen ac nid ydynt ei eisiau mwyach, i rywun arall, efallai
mai hwn yw’r union beth y maent ei angen, oherwydd na allant
fforddio prynu rhywbeth newydd. Yn aml, gallwn ddarparu’r
holl bethau angenrheidiol ar gyfer tþ cyfan am ganpunt –
ac mae hynny’n cynnwys popeth!
Felly
sut mae’r broses yn gweithio, sut dosbarthir y nwyddau i bobl,
a ydych yn cydweithio gyda’r cyngor yn hyn o beth?
Unrhyw fath o asiantaeth gofal sefydledig, felly gallai fod yn rhan
o’r gwasanaethau cymdeithasol, gallai fod yn “Beacon
of Hope”, gallai fod yn “Gofal Ceredigion”, gallai
fod yn unrhyw sefydliad sy’n gallu cyfeirio pobl, gall pobl
gyfeirio eu hunain hefyd os bydd ganddynt lythyr gan asiantaeth
sefydledig neu gorff fel eglwys leol neu eu Meddyg Teulu, felly
mewn gwirionedd, gall unrhyw un roi asesiad gwrthrychol i ni o’r
mathau o bethau y mae eu hangen arnynt, ac yna, gallant gael gostyngiad
o 25% ar gost ein nwyddau, nad ydynt yn costio rhyw lawer ta beth.
Rydym yn dymuno annog mwy o weithgarwch ailddefnyddio, felly er
mwyn i ni wneud hynny, mae’n gwneud synnwyr i ni godi prisiau
mor isel ag y gallwn.
Rydych
yn gwmni nad yw’n ceisio gwneud elw ta beth, onid ydych?
Ydym.
Iawn, felly beth yw sefyllfa’r prosiect ar hyn o bryd
a beth fydd y grant yn eich galluogi i wneud?
Rydym yn ehangu; byddwn yn sicrhau proffil uwch, lleoliad yng nghanol
tref, ymhen tua 10 mis neu flwyddyn, felly rydym eisoes yn cyflogi
mwy o bobl o ganlyniad i hynny...byddwn yn creu 13 swydd amser llawn
sy’n ychwanegol i’r swyddi sydd gennym eisoes. Gallai’r
swyddi hyn fod yn y gweithdy neu’n delio’n uniongyrchol
â’r cyhoedd neu gallent fod yn y faniau, oherwydd mae’n
amlwg y bydd angen faniau arnom nawr, byddwn yn gwneud mwy o waith
ac rydym yn cynnig gwasanaeth casglu am ddim, rydym yn casglu ac
yn dosbarthu am bris bach, ond byddwn yn casglu am ddim ledled Ceredigion.
Felly
o ran amserlen, rydych yn adeiladu nawr, pryd ydych yn gobeithio
gorffen y prosiect?
Bydd y contractwyr
yn cychwyn ar y gwaith ar y safle ym mis Medi, a fydd yn ardderchog
– ni allaf gredu’r peth – y mis hwn! Ac ar hyn
o bryd, nid ydym wedi cadarnhau hyd cyfnod y contract, mae’n
debygol o fod yn 10 mis.
Ac
yna, byddwch yn symud i’ch eiddo newydd ac yn barod i gynnig
eich gwasanaeth?
Byddwn.
Felly
pwy oedd yr arianwyr eraill ac eithrio amcan 1?
At ei gilydd, ceir 10 grant gwahanol...Mae gennym becyn ariannu
cymhleth iawn eisoes, mae hwn yn gynllun mawr, a bydd y prosiect
cyfan yn costio 6 miliwn o bunnoedd ac mae gennym ychydig arian
refeniw ychwanegol, oherwydd mae CRAFT yn fusnes cymhleth iawn,
mae’n gwneud nifer o wahanol bethau. Rydym yn gwneud y gwaith
ailgylchu, ond trwy redeg y busnes ailgylchu, gallwn gynnig gwaith,
hyfforddiant a lleoliadau gwaith. Rydym yn gwneud llawer o waith
gyda mannau megis Canolfannau Gwaith a Choleg Ceredigion. Rydym
newydd drefnu lleoliad diwydiannol gyda’r Brifysgol. Felly
rydym yn ceisio darparu nifer o gyfleoedd i bobl sy’n dymuno
gadael eu gwaith am ba reswm bynnag, ac nad ydynt yn gallu cystadlu
yn y farchnad swyddi, felly rydym yn hoffi gallu cynnig llwybrau
i mewn iddynt, fel gwirfoddolwr efallai, a gweld sut mae pethau’n
mynd, felly efallai os maent yn hoffi crefft, gallant gael hyfforddiant
yn ystod eu cyfnod yma ac yna, y gobaith yw y gellir troi hynny’n
swydd – mae’r rhan fwyaf o gyflogir gan CRAFT wedi cychwyn
fel gwirfoddolwyr gyda’r sefydliad. Mae rhywun yn cael gwersi
dysgu gyrru yma ar hyn o bryd, mae nifer o bobl yn astudio am gymwysterau
cyfrifiadurol, mae rhai yma sydd wedi bod yn gwneud dodrefn, rydw
i wedi cael rhywfaint o hyfforddiant cyfrifiadurol, felly rydym
yn darparu pob math o hyfforddiant i bob math o bobl.
Beth
yw ystyr yr enw CRAFT?
Tîm Dodrefn ac Ailgylchu Ceredigion.
A
wnaethoch ei sefydlu eich hun?
Na, ymunais â CRAFT 2 flynedd a hanner yn ôl ac mae
wedi bodoli ers 11 o flynyddoedd. Cefais fy nghyflogi fel y swyddog
datblygu, i ddelio â’r pecyn ariannu. Pan ymunais, syniad
ydoedd, ac roedd CRAFT wedi cymryd y cam hynod o ddewr o brynu’r
safle ac o ganlyniad i hynny, bu’n gweithio gyda Chyngor Ceredigion.
Cefais fy nghyflogi i sicrhau bod pethau’n digwydd.
Felly
mae hyn yn rhan o’r strategaeth dwf. Ai cychwyn syml iawn
a gafodd?
Dim ond ychydig bobl a aeth ati i’w sefydlu, roeddent yn wirfoddolwyr
a oedd yn gweithio ychydig oriau ac yn berchen ar geir ystad Volvo,
roeddent yn gweld bod angen i bobl gael dodrefn rhad, roeddent yn
bobl dlawd ac roedd gan ysbyty Bronglais 10 wardrob nad oedd eu
hangen arno mwyach a gwelodd y bobl hyn y byddai modd i bobl oedd
yn gaeth oherwydd tlodi eu defnyddio, a gwelwyd y sefydliad yn datblygu
o hynny. Felly bu Byddin yr Iachawdwriaeth yn cyfrannu yn ogystal
â’r gwasanaethau cymdeithasol. I ddechrau, gwelwyd rhai
gwirfoddolwyr yn neilltuo ychydig oriau yr wythnos i’r gwaith.
Erbyn hyn, mae’n fusnes trefnedig go iawn sydd newydd gychwyn
ar ei waith mewn gwirionedd, ac ar ôl cael y strategaeth a’r
eiddo newydd, byddwn yn dechrau marchnata ein hunain. Tan nawr,
nid ydym wedi gwneud unrhyw farchnata ac nid ydym wedi gallu hysbysu
pobl Ceredigion ein bod yma.
A
oes unrhyw beth yr ydych yn arbennig o falch ohono yr hoffech i
bobl gael gwybod amdano?
Hoffwn i bobl feddwl amdanom fel busnes trefnedig go iawn oherwydd
dyma beth ydym. Mae’n siðr bod rhai o’r gwobrau
yr ydym wedi’u cael yn adlewyrchu hynny. Rydym wedi sicrhau
gwobr lefel 2 y Ddraig Werdd, sy’n wobr amgylcheddol, ni oedd
y busnes cyntaf yng Ngheredigion i sicrhau hynny. Rydym wedi sicrhau
Gwobr Canolfan Gwaith a gwobr Dysgu Oedolion, gwobr ailgylchu dodrefn
a gwobr Buddsoddwyr mewn Pobl.
Faint o bobl yr ydych yn eu cyflogi ar hyn o bryd?
Roeddem yn cyflogi 12 y llynedd ac rydym eisoes yn recriwtio rhagor
o bobl. Mae On Your Bike yn rhan o CRAFT – sy’n aml
yn peri penbleth i bobl, felly rydym hefyd yn ymwneud â Gwersylloedd
Beiciau Mynydd gyda chanolfan hamdden Plas Crug yn Aberystwyth,
felly mae’r gwaith a wnawn yn amrywiol iawn.
Beth
mae “On Your Bike” yn ei wneud?
Mae’n rhan o CRAFT lle y gallwch logi beic, mynd ar y trên
a theithio i rywle lle y gallwch feicio ar ôl cyrraedd. Rydym
hefyd yn dechrau cynnig cyrsiau hyfforddi i blant ac oedolion ynghylch
sut i fynd o le i le ar eich beic. Mae’r ethos cyfan gwbl
yn wyrdd; rydym yn helpu i annog pobl i feicio. Mae’n ymwneud
â ffordd o fyw ond mae’n ymwneud â thwristiaeth
hefyd. Un peth a fydd gennym yn ein heiddo fydd lle i gloi beiciau
a chawodydd er mwyn i chi allu beicio i’r gwaith ac yna, ymolchi
a chloi’ch beic yn y dref er mwyn annog pobl i ddefnyddio
llai o’u ceir. Mae’n amgylcheddol iawn.
DIWEDD.
CAE FFENEST