Menu Graphic Hafan Cwestiynau Newyddion Y Gwir Storiau Swyddi & Grewyd Arian a Wariwyd Prosiectau Cymeradwy Bwrdd Partneriaeth Dogfennau Perthnasol Manylion Cyswllt Cysylltiadau defnyddiol Cronfeydd UE 2007-13 Clipiau Ffilm Prosiectau Galeri Lluniau Prosiectau Map o brosiectau Tudalen Cyflwyniad English

Level Triple-A conformance icon, 
          W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0

Glan y cei adeg lansio Cei Tywysog Siarl 2007

 

Photograph showing the new Signs in CRAFTS railway platform premises, Aberystwyth

Y golwg newydd yn CRAFT (Tîm Ailgylchu a Dodrefn Ceredigion) yn Aberystwyth – Mai 2006, sydd wedi adnewyddu platfform y rheilffordd segur ar gyfer eu hadeiladau newydd. Derbyniodd CRAFT £1.4m o Gronfa Amcan 1.

-----------------------

Photograph of Sir Mansel Lewis at the Teifi Valley Railway' launch on their extended track and improved  visitor facilities.

Syr Mansel Lewis yn Lansiad Rheilffordd Dyffryn Teifi ym Mehefin 06. Derbyniodd y prosiect £11k o Grantiau Bwrdd Croeso Cymru a Grantiau Amcan 1 i Fusnesau Twristiaeth.

----------------------

Cyllid Cydgyfeirio

Cronfeydd UE 2007-13 || Cyllid Cydgyfeirio || Cynllun Datblygu Gwledig ||

Rhaglenni Cydweithredu Tiriogaethol Ewrop || Cronfa Pysgodfeydd Ewrop

Cyllid cydgyfeirio yw olynydd Amcan 1 ac fe’i cynlluniwyd er mwyn cynorthwyo rhanbarthau megis Gorllewin Cymru a’r Cymoedd i gwblhau’r broses o ddyfod yn economi blaengar, cystadleuol ac yn seiliedig ar wybodaeth.  Nod y rhaglenni newydd yw adeiladu ar y cynnydd a wnaed yn ystod y cyfnod Amcan 1 presennol.  Bydd rhanbarth Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn derbyn €1.85 biliwn, sy’n gyfwerth ag oddeutu £1.3 biliwn.  Ceir ansicrwydd ynghylch dyddiad dechrau’r rhaglenni cydgyfeirio, ond mae’n debygol y byddant yn dechrau yn ystod hydref 2007.

Ceir dwy raglen Gydgyfeirio ar gyfer rhanbarth Gorllewin Cymru a’r Cymoedd;

  • Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF)
  • Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF)

Ymhlith blaenoriaethau Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop mae;
Blaenoriaeth 1 - Adeiladu’r Economi sy’n Seiliedig ar Wybodaeth

  • Thema 1 – Ymchwil a Datblygu, Arloesi a Thechnoleg
  • Thema 2 – Isadeiledd TGCh a Chymdeithas Wybodaeth i Bawb

Blaenoriaeth 2 – Gwneud Busnesau’n fwy Cystadleuol

  • Thema 1 – Entrepreneuriaeth
  • Thema 2 – Cyllid Busnes

Blaenoriaeth 3 – Datblygu Isadeiledd Strategol ar gyfer economi Modern

  • Thema 1 – Cludiant cynaliadwy
  • Thema 2 – Isadeiledd Strategol

Blaenoriaeth 4 - Amgylchedd Busnes Cynaliadwy Deniadol ar gyfer Buddsoddi

  • Thema 1 – Ynni
  • Thema 2 – Mynd i’r afael â chyfleoedd Amgylcheddol a Pheryglon ar gyfer Twf Economaidd Cynaliadwy
  • Thema 3 – Amgylchedd ar gyfer Twf

Blaenoriaeth 5 – Adeiladu Cymunedau Cynaliadwy

  • Thema 1 – Adfywio Ffisegol (gan gynnwys adfywio canol trefi)
  • Thema 2 – Datblygu Economaidd Cymunedol (gan gynnwys mentrau cymdeithasol)

Ymhlith blaenoriaethau Cronfa Gymdeithas Ewrop mae;
Blaenoriaeth 1 – Rhoi’r Sgiliau i Bobl Ifanc er mwyn iddynt ddod o hyd i Waith

  • Thema 1 – Mynd i’r afael â thangyflawni
  • Thema 2 – Cynyddu’r dyhead i ennill sgiliau (Codi’r Safon)

Blaenoriaeth 2 - Cynyddu Cyfleoedd Gwaith a mynd i’r Afael ag Anweithgarwch Economaidd

  • Thema 1 - Cynorthwyo pobl i ddod o hyd i waith cynaliadwy
  • Thema 2 – Cynorthwyo pobl i aros mewn gwaith

Blaenoriaeth 3 – Codi Lefelau Sgiliau a Hyblygrwydd y Gweithlu

  • Thema 1 – Codi sylfaen sgiliau’r gweithlu
  • Thema 2 - Sgiliau ar gyfer yr economi gwybodaeth: sgiliau a systemau lefel uwch ar gyfer datblygu’r gweithlu
  • Thema 3 – Hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol mewn gwaith

Blaenoriaeth 4 – Creu’r Cysylltiadau, Moderneiddio a Gwella Ansawdd Gwasanaethau Cyhoeddus

  • Thema 1 – Gweddnewid gwasanaethau cyhoeddus drwy weithio ar y cyd yn fwy effeithiol
  • Thema 2 – Adeiladu gallu sectorau gwasanaethau cyhoeddus er mwyn darparu gwasanaethau o ansawdd uwch.

Blaenoriaeth 5 – Cymorth Technegol

Rhagwelir, lle bo hynny’n bosib, y defnyddir cronfeydd drwy gytundebau Fframwaith Strategol.  Fodd bynnag, bydd hefyd sgôp ar gyfer gwneud cais uniongyrchol ar gyfer prosiect unigol a chomisiynu prosiectau.

Am ragor o wybodaeth am Gyllid Cydgyfeirio a Fframweithiau Strategol, edrychwch ar 

 

Hafan || Cwestiynau || Newyddion || Y Gwir Storiau || Swyddi a Grewyd || Arian a Wariwyd || Prosiectau Cymeradwy || Bwrdd Partneriaeth || Dogfennau Perthnasol || Cronfeydd UE 2007-13 || Clipiau Ffilm Prosiectau || Galeri Lluniau Prosiectau || Cysyslltiadau defnyddiol || Manylion Cyswllt ||Tywydd yn Aberteifi || Tywydd Yn Llambed || Tywydd yn Aberystwyth ||Webmaster || Map o brosiectau ||Intro || English ||

Logo - Yr Undeb Ewropeaidd Amcan 1 a: Logo Cyngor Sir Ceredigion

HTML || Adeiladwyd y safle gan ddefnyddio CSS Positioning || Cydymffurfio gyda Mynediad lefel 3 || Tudalennau a Ddilyswyd