|
|
|
|
|
| The new cafe |
Margaret Walters |
The Raliway (1) |
The Railway (2) |
Caffi Panoramig yn edrych ymlaen i'r Nadolig
|
|
|
| Mae cyfleusterau newydd, gan gynnwys caffi a chanolfan i ymwelwyr, a fydd yn helpu i ddiogelu apêl constitution hill Aberystwyth, gyda'i olygfa 360 gradd o amgylch y dref a'r cefn gwlad oddi amgylch, ar fin cael eu cwblhau. Arferai "Consti" fod yn brif atyniad Aberystwyth i dwristiaid, 430 troedfedd uwch ben lefel y môr, lle y gall rhywun weld 1000 milltir sgwâr o olygfeydd, 100 milltir o arfordir a 26 o gopaon mynyddoedd. Llwyddodd y prosiect sy'n werth £400,000, i sicrhau grant Amcan Un o £190,000 yn ôl yn 2001, ynghyd â chyfraniadau gan Fwrdd Croeso Cymru, CADW ac arian o'r sector preifat. Y nod yw cwblhau'r caffi erbyn y Nadolig eleni. |
|
CYFWELIAD LLAWN Natalie Moyce yn clywed am Gynlluniau newydd Consti Cyfweliad gyda Margaret Walters (Rheolwraig) Faint o arian Amcan 1 gawsoch chi? £190,000 gan amcan 1. Cawsom grantiau eraill hefyd gan sefydliadau amrywiol eraill; telir rhai ohonynt ar ôl i'r prosiect gael ei gwblhau. Ar gyfer beth y rhoddwyd yr arian felly? Caffi a chanolfan newydd i ymwelwyr, sef yr adeilad draw fan acw sydd ar fin cael ei gwblhau. Caiff yr adeilad yr ydym ynddo nawr ei drawsnewid yn ganolfan addysg. Rydym wedi gwneud hanner y gwaith i'w newid erbyn hyn. Pryd y gwnaethoch gais amdano? 2001. Rydym wedi cael problemau wrth geisio cael gafael ar adeiladwr, oherwydd y lleoliad. Beth sydd o ddiddordeb am Constitution Hill ac eithrio'r olygfa dda oddi yma? Wel yn wreiddiol, fe'i adeiladwyd i fod yn atyniad i dwristiaid, fel caeau ffeiriau, ac arferai'r chwarel lle y gwelir y caffi newydd, gael ei ddefnyddio fel ystafell ddawnsio, lle y cynhaliwyd dawnsfeydd, ac arferai ddwyn yr enw Neuadd Victoria. Roedd gerddi yma wedi'u goleuo yn ystod y nos gan lusernau Japaneaidd. Mae'r cwmni sy'n berchen arno nawr yn elusen gofrestredig ac yn fusnes nad yw'n ceisio gwneud elw felly caiff pob ceiniog sy'n weddill ar ôl talu'r cyflogau, ei wario ar yr holl brosiectau, a'n nod yw sicrhau ei fod yn atyniad braf i dwristiaid unwaith eto, gan gynnwys rhai o'r hen nodweddion. Pryd adeiladwyd yr atyniad? Fe'i adeiladwyd ym 1896 pan oedd Aberystwyth yn un o'r mannau mwyaf poblogaidd, ac roedd llawer o Fictoriaid yn teithio yma. Mae ganddo'r siambr dywyll fwyaf yn y byd ac mae fel arsyllfa. Rydych yn mynd i mewn i ystafell dywyll ac mae'r drychau ar y brig yn gweithio fel perisgop gan ddangos yr holl olygfeydd o Aberystwyth ar y ddysgl, yr un mwyaf yn y byd yn ôl pob sôn. Nid maint yr ystafell, ond maint y lens. Mae'r un yng Nghaeredin yn 12 modfedd ac mae hwn yn 14 modfedd. Dymchwelodd y caban pren yr arferai fod ynddo yn y 1920au ac aethant ati i ail-wneud yr un a gawsom ym 1985. Yr adeilad newydd a welwch yw'r caffi newydd a chychwynnwyd ar y gwaith ar hwn ym mis Ionawr eleni. Bydd y caffi yn creu swyddi newydd ac yn ein galluogi i fod ar agor am oriau hwy hefyd a sicrhau bod ein tymor yn hwy. Caiff o leiaf dwy swydd arall eu creu. Bydd hefyd yn creu 2 swydd newydd ar y trên oherwydd bydd yn ein galluogi i fod ar agor am gyfnod hwy, felly bydd mwy o swyddi rhan-amser. Pwy sy'n dod i fyny yma ar hyn o bryd? Twristiaid, ond grwpiau lleol hefyd fel Sefydliad y Merched a theithiau ysgol, a byddwn yn rhentu'r lle i bobl sy'n dymuno cynnal arddangosiadau yma hefyd. Y llynedd, gwelwyd ychydig dros 61 o filoedd o bobl yn defnyddio'r trên a bu nifer iawn yn cerdded i fyny hefyd. Bydd safle chwarae o flaen y caffi newydd ac mae'r lorïau yn cludo deunyddiau yma o hyd. Gallwn gario mwyafrif yr eitemau ar y trenau ond mae llwybr yn y cefn ac mae'r ffermwr yn gadael i ni ddefnyddio hwn. Yn eich barn chi, faint fydd yn ei gymryd i orffen y prosiect cyfan? O ran y gwaith adeiladu, rydym yn gobeithio y bydd hwn wedi cael ei gwblhau erbyn y Nadolig. Rydym yn cynnal sesiynau Siôn Corn arbennig dros y Nadolig lle y byddwn yn trawsnewid yr adeilad hwn yn ogof Siôn Corn. Daeth llawer o blant i fyny y llynedd. Rydym hefyd yn cynnal gweithdai crefft i blant. Gwnaethom drefnu gweithdy a oedd yn delio â gwynt y llynedd a byddwn yn cynnal picnic tedi bêrs bob mis Awst, a'r flwyddyn nesaf, rydym yn gobeithio cynnal sioe grefftau. Faint o bobl sy'n gweithio yma yn barod? Rydym yn rhentu'r caffi a'r siop anrhegion i Blas Lluest ac maen nhw'n helpu pobl sydd ag anableddau dysgu yno, felly maent yn dod yma 2 neu 3 gwaith yr wythnos i gael hyfforddiant, golchi llestri a glanhau ffenestri a byddwn yn parhau i wneud hynny ar ôl cwblhau'r adeilad newydd. Felly ers pryd y mae'r lle wedi dirywio? 1939. Roedd y dyn a brynodd y safle ar ôl y flwyddyn honno yn dymuno adeiladu pentref model yma, ond nid oedd yn gallu cael caniatâd cynllunio i wneud hynny ac mae bellach yn ein dwylo ni. Rydym wedi gwneud llawer o waith i drwsio'r trenau dros yr haf. Er na allwch weld hynny, rydym wedi newid y rhaffau cludo; bu'n rhaid i ni gau am 15 wythnos oherwydd y bu'n rhaid cynhyrchu rhaff arbennig. Ond ni fydd yn rhaid i ni newid unrhyw beth am oddeutu 14 mlynedd. Maent yn cynnwys 2 brif rhaff a byddai un yn gallu ymdopi â llwyth llawn ar ei ben ei hun, dim problem. Arferai gael ei gydbwyso gan ddwr ond newidiodd hyn ym 1921, 22. Roeddent yn arfer pwmpio dðr i danc mawr ar du blaen y trên ac roedd pwysau hwn yn tynnu'r llall i fyny a phan fyddai'n cyrraedd y gwaelod, byddai'n wag a byddai'r un ar y brig yn llenwi eto. Nid oedd cyflenwad dwr mawr i fyny fan hyn felly roeddent yn defnyddio tanc mawr. Arferai'r cyntedd lle y daethoch i mewn, fod yn ystafell bwmpio, a arferai bwmpio'r dwr yn ôl i fyny gan ddefnyddio pwmp ager a oedd yn rhedeg ar lo, ond aeth y glo yn rhy ddrud. Roeddent yn arfer dod â'r glo i mewn ar gwch ac aeth yn rhy ddrud i'w gario yma, felly fe'i ddisodlwyd gan un trydan. Fe'i newidiwyd pan luniwyd y mapiau stryd. Arferai dyn aros ar y tu blaen yn gweithio'r brêc llaw, nid ydw i'n credu mai rhedeg allan o ddwr a wnaethant, na'r ffaith bod glo wedi mynd yn rhy ddrud, rwy'n credu eu bod wedi rhedeg allan o ddynion dewr i aros ar y tu blaen! Nid wyf yn credu y byddwn i wedi hoffi mynd i lawr y bryn yna gyda phwysau'r dðr a heb unrhyw beth i'w atal ac eithrio dolen fach yr oeddech yn ei throi. ENDS. |