CYFWELIAD LLAWN
Natalie Moyce yn cael manylion y prosiect CBES
Cyfweliad gyda Becky Hulme (Swyddog Prosiect Cynorthwyol)
Felly beth yw Cynllun Cyfoethogi Bioamrywiaeth Ceredigion?
Wel, yn y bôn, cynllun sy’n cael ei redeg ar gyfer tirfeddianwyr lleol o fewn Ceredigion ydy hwn. Y syniad yw ei fod yn gynllun adfer cynefinoedd. Mae’n seiliedig ar brofiadau Fferm Denmark. Rydyn ni’n anfon pecynnau at dirfeddianwyr sy’n sôn am yr Ymddiriedolaeth. Fe ddechreua i drwy ddweud wrthych chi am yr Ymddiriedolaeth i ddechrau cychwyn. Cafodd ei brynu gan gwpl o dyddynwyr ddiwedd yr wythdegau. Fe ddaethon nhw o Dde Prydain ac roedd ganddyn nhw’r syniad delfrydol yma o beth ddylai tyddyn fod yng Nghymru, ac roedden nhw wedi dod yma ac fe gawson nhw’r hyn yr oeddent yn ei alw’n wanwyn tawel, gan fod y tir wedi cael ei ffermio’n ddwys dros ben, doedd yno fawr o fywyd gwyllt, felly fe sefydlon nhw’r Shared Earth Trust i adfer y tir. Buon nhw’n ei fonitro bob cam o’r daith, am reolaeth y tir. Rydyn ni’n trefnu cyrsiau hyfforddi hefyd; mae gennym ni rôl addysgiadol. Ta beth, syniad y cynllun hwn oedd dysgu pobl yr hyn yr oedden ni’n ei wybod, achos mae 'na lawer o ddaliadau heb fawr o werth o ran bywyd gwyllt. Roedd llawer o gadwraethwyr a rheolwyr cefn gwlad yn credu eu bod nhw ychydig yn wallgo’ â dweud y gwir, achos doedd yma ddim byd yma oedd werth ei gadw mewn gwirionedd oherwydd y ffermio dwys a’r rhibidirês o dirfeddianwyr tymor byr.
Ydy’r ffarm yn un sy’n gweithio?
Mae’n gweithio yn yr ystyr fod dwy ran o dair o’r tir yn cael ei bori gan wartheg amrywiol, ond nid ein rhai ni ydyn nhw mewn gwirionedd. Porfa organig sydd yma, felly dyw ei ddim yn hyfyw yn economaidd. Safle arddangos sydd yma i ddangos sut y gellir adfer ffermydd.
Fel swyddog prosiect, sut mae’ch cefndir chi’n cyd-fynd â’r swydd hon?
Wel mae gen i radd mewn Rheolaeth Amgylcheddol o Brifysgol Llanbed. Y syniad wrth sefydlu’r cynllun oedd bod yna lawer iawn o dir sydd angen ei adfer. Rydyn ni wedi dangos faint o gwmpas sydd yna, pa mor hawdd yw’r gwaith a pha mor isel yw’r gost hefyd. Nid bod yn werddon fel gwarchodfa natur yw’r syniad yma, nid bod yn gynefin ynysig, ond yn hytrach lledu’r hyn yr ydyn ni wedi’i ddysgu am yr amgylchedd ac am fywyd gwyllt.
Ydych chi’n gweithio gyda rhywogaethau sydd mewn perygl?
Na, gweithio’n gyffredinol fyddwn ni, dyna’r peth, y syniad yw peidio â blaenoriaethu. Cafodd yr Ymddiriedolaeth ei sefydlu gyda’r amcanion o beidio â gwahaniaethu, i ddelio gyda bywyd gwyllt arferol fel y robin goch er enghraifft, rhai rhywogaethau prin, hynny yw, mae gennym ni degeirianau sy’n brin, ond rydyn ni’n gwneud ein gorau i beidio â gwahaniaethu, i greu amrywiaeth o gynefinoedd gwahanol sydd i gyd wedi cysylltu â’i gilydd er mwyn rhoi’r cyfleoedd gorau ar gyfer cymaint o fywyd gwyllt â phosibl. Mae llawer o rywogaethau bywyd gwyllt yr ydyn ni’n eu hystyried yn gyffredin wedi gostwng yn fawr yn eu niferoedd. Allwn ni ddim canolbwyntio ar rywogaethau arbenigol sy’n brin iawn, achos weithiau byddwch chi’n colli golwg ar y cyffredinol. Mae ‘na rywogaethau oedd yn arfer bod yn gyffredin iawn ac sydd wedi dod yn anghyffredin erbyn hyn, fel yr ysgyfarnog. Maen nhw’n lleihau achos bod angen glaswelltir garw arnyn nhw, mae angen gorchudd arnyn nhw hefyd. Os edrychwch chi ar y caeau dwys efo’r holl rygwellt yna, does ‘na ddim gorchudd o gwbl. Maen nhw’n hoffi gorchudd ac maen nhw’n hoffi bod mewn rhesi mewn glaswelltir gyda llawer o dwmpathau. Maen nhw’n ei chael hi’n anodd addasu. Syniad y cynllun yw y bydd yn cynnwys y rhywogaethau hynny sydd wedi eu gadael allan o gynlluniau eraill. Ydych chi wedi clywed am DIR GOFAL, sy’n cael ei redeg gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru? Cynllun amaethyddol ydy e; y prif gynllun o’i fath yng Nghymru. Ein syniad ni oedd targedu tirfeddianwyr nad oedden nhw’n dod i mewn i’r cynllun hwnnw. Tyddynwyr ydy’r rhan fwyaf o’r bobl yn ein cynllun ni.
Dywedwch rywbeth am y cynllun neu’r cynlluniau sy’n cael eu rhedeg gennych chi.
Y broses yw eu bod yn ymuno â´r cynllun a thalu tâl aelodaeth, ac yna byddan nhw’n mynd ar ddiwrnod cynllunio cadwraeth, sy’n esbonio hanfodion creu eich cadwraeth eich hun. Y syniad yw ymrymuso tirfeddianwyr er mwyn iddyn nhw gael y syniad o’r hyn yr ydyn ni’n sôn amdano. Os mai ffermwr sy’n gorfod cael adenillion economaidd, mae’n anodd troi hynny’n ôl, ond fe allwn ni ddangos iddyn nhw sut i weithio ar agweddau positif eu safle er mwyn gwella cymaint â phosibl, o fewn pa ffiniau bynnag. Felly fe fyddan nhw’n dod ar ddiwrnod cynllunio cadwraeth, ac ar ôl hynny gallwn ni fynd ar ymweliad i’w safle. Mae llawer o dirfeddianwyr yn frwdfrydig iawn i gael arbenigwr yn edrych o gwmpas y tir, gan roi cyngor a phethau iddyn nhw. Os oes ‘na unrhyw waith i’w wneud, gallan nhw gael grant hyd at 48% ar sail ecolegol. Byddan nhw’n dod atom ni efo cynllun cadwraeth, yn dweud beth maen nhw eisiau ei wneud ac yn lle.
Arian Amcan 1 yw hwn?
Ie.
A pha fath o waith ydych chi’n ei wneud?
Rydyn ni wedi gwneud llawer iawn o waith ffensio, ond nid ffensio’n unig ydy hynny. Wrth ffensio rydych chi’n creu coridorau bywyd gwyllt. Yn y bôn, dyw llawer o wrychoedd heb gael eu ffensio o gwbl oherwydd anifeiliaid y fferm. Mae’r gwrych yn cael ei ddiraddio oherwydd y stoc, gormod o ddefaid neu wartheg. Rydyn ni’n talu i ffensio coridor, yn agos i’r gwrych, rhyw 2 fetr o ganol y gwrych. Yn aml bydd y ffermwyr wedi bod yn ffensio yn nes at y gwrychoedd, felly dyw hynny ddim wedi bod mor fanteisiol i fywyd gwyllt. Talu’r ffermwyr i ffensio’r gwrychoedd yw’r opsiwn rad i adfer gwrychoedd. Rydyn ni’n talu am osod gwrychoedd hefyd. Rydyn ni wedi plygu gwrychoedd a thrwsio gwrychoedd.
Beth yn union yw plygu gwrychoedd?
Mae’r gwrych yno’n barod pan fyddwch chi’n plygu gwrychoedd. Mae gennych chi ddarnau bach o’r gwrych neu o goed, a byddwch chi’n eu torri ac yn eu plygu. Y syniad gwreiddiol oedd creu rhwystr yn erbyn y stoc, ond mantais arall anuniongyrchol o’r dull traddodiadol hwn yw eich bod chi’n creu llawer o orchudd ar gyfer adar a mamaliaid bach. Maen nhw wastad wedi defnyddio’r cwndidau hyn yng nghefn gwlad i fynd o le i le. Yn ogystal â chysgod, mae’r gwrych yn darparu bwyd. Plygu gwrychoedd yw’r hyn sydd i fod i ddigwydd i wrych. Roedd e’n arfer digwydd flynyddoedd lawer yn ôl, ond daeth ffensys yn fwy poblogaidd, neu dyw ffermwyr ddim wedi trafferthu cadw’r gwrychoedd. D’wedwch fod gwrych wedi tyfu allan neu wedi cael ei orfwyta neu rywbeth, a’i fod wedi troi’n llinell o goed yn unig, coed aeddfed, byddai hynny’n anodd iawn i’w blygu. Weithiau yr unig ddewis yw naill ai coedlannu, eu torri ar y gwaelod i greu llystyfiant trwchus. Mae llawer iawn o ngwaith i yn ymwneud â dod o hyd i wybodaeth i dirfeddianwyr am agweddau arbenigol: efallai bod ganddynt foch daear ar eu tir; sut i wella eu cynefin; y gyfraith ar ffensio, y math yna o beth. Mae’n rhaid i mi ddod o hyd i’r wybodaeth iddyn nhw mewn gwirionedd.
Pryd gychwynnodd Amcan 1 gyda’r Shared Earth Trust?
Wel, fe gychwynnais i flwyddyn yn ôl i fis Medi diwethaf. Cychwynnodd y cynllun ddechrau 2003. Nid fi oedd y swyddog prosiect cynorthwyol cyntaf. Dim ond tan ddiwedd 2005 y mae’r prosiect yn mynd. Mae cyllid ar gyfer rhedeg y prosiect a chyllid ar gyfer gwaith cyfalaf. Mae 51 o safleoedd wedi eu cofrestru ar y funud. Roedden ni wedi gobeithio cael mwy o dirfeddianwyr, ond ar y llaw arall rydyn ni wedi gwneud mwy o waith nag yr oedden ni wedi meddwl y bydden ni. Hyd yn hyn rydyn ni wedi gwneud yn agos at 7km o gynefin . Cynefin llinellog yw unrhyw beth sy’n ymwneud â chynefin y gwrych neu’r ffos. Fel roeddwn i’n dweud, gallai olygu ei ffensio, gallai fod yn blygu gwrychoedd neu’n coedlannu’r ardal honno. Mae Gillian wedi gwneud llawer o waith ar y cynllun hwn. Byddai’n dda pe byddech chi’n ymweld â hi. Mae hi’n frwdfrydig iawn. Weithiau bydd y gwaith yn costio mwy na’r amcangyfrif. Mae hi wedi gwneud llwyth o waith, yn plygu gwrychoedd ac yn adfer pyllau. Mae llawer o’r bobl ar y cynlluniau hyn yn frwd iawn dros fywyd gwyllt a chadwraeth, ond dydyn nhw ddim bob amser yn gwybod sut i fwrw iddi. Cofiwch, dydyn ni ddim yn dweud y dylai pobman fod yn llawn brwyn, ond mae porfa frwyn yn werthfawr iawn i fywyd gwyllt. Mae’n gynefin sy’n diflannu oherwydd gor sychu tir. Mae pethau fel y Gïach (aderyn) wedi lleihau’n ddramatig. Roedden nhw’n arfer bod ym mhobman yn yr ardal hon. Maen nhw’n dal i fwydo yma, ond dydyn nhw ddim yn magu yma. Mae gennym ni ddyfrgwn yma hefyd, eto ddim yn magu ond yn defnyddio’r safle. Mae llawer o dirfeddianwyr yn awyddus i gychwyn arni, ond mae angen ychydig o arweiniad arnyn nhw. Yn aml iawn maen nhw’n gwneud y pethau iawn, mae ganddyn nhw’r syniad iawn, ond does ganddyn nhw mo’r hyder i roi’r arian i mewn. Un peth da am y cynllun hwn yw ei fod wedi dod â phobl i weithio gyda’i gilydd contractwyr, yn dda ar gyfer dod â sgiliau at ei gilydd a chreu swyddi yn ogystal â’r manteision amlwg i’r amgylchedd.
Gillian Morgan – Tirfeddiannwr
Cyfweliad – Natalie Moyce
Dywedwch wrtha’i felly sut y cawsoch chi help gan gynllun CBES …
Ni oedd y fferm gyntaf i gael ein cymeradwyo am grant ac erbyn hyn rydyn ni’n nesu at ddiwedd yr ail flwyddyn. Mae’r cynllun yn rhedeg am 3 blynedd ac fe fydd yn gorffen ddiwedd 2005. Rydyn ni wedi gwneud gwahanol bethau: peth ffensio dwbl er mwyn amddiffyn gwrychoedd; rydyn ni wedi plygu hen wrych draenen ddu, ac yna wedi plygu’r gwrych; rydyn ni wedi gosod ffens ddwbl o’i chwmpas er mwyn ei hamddiffyn rhag anifeiliaid. Rydyn ni’n fferm organig sy’n tewhau 22 eidon bob blwyddyn, ac er nad ydyn ni’n berchen ar ddefaid, mae gennym ni 160 oen benyw yma am 6 mis dros y gaeaf. Mae gan anifeiliaid fferm duedd i fwyta unrhyw dyfiant sy’n ymddangos, sy’n golygu nad yw gwrychoedd yn gallu tewychu gan fod yr anifeiliaid yn eu cadw i lawr drwy’r amser, i raddau gormodol, felly drwy ffensio dwbl rydych chi’n amddiffyn y gwrych a gall y gwrych wedyn atgynhyrchu ei hun. Mi alla’i ddangos lluniau “cynt ac wedyn” o hynny i chi.
Un o’r pethau eraill rydyn ni wedi ei wneud yw gosod ffens sengl lle mae’r terfyn yn glawdd carreg a phridd. Dyna oedd ffiniau caeau pob un o’n caeau ar un adeg, tua’r uchder yma o garreg a phridd. Gall y rhain gael eu difrodi gan ddefaid yn neidio i fyny arnyn nhw neu gan wartheg yn rhwbio’u pennau arnyn nhw, sy’n achosi erydu difrifol. Rydyn ni wedi ffensio 2 ddarn eitha’ hir o gloddiau i amddiffyn i waliau sy’n gynefin gwerthfawr ynddynt eu hunain, ac mae planhigion hefyd yn cael cyfle i ailsefydlu yno. Mae’r lluniau eraill yn dangos sut oedd y wal yn edrych cyn i ni ei thrwsio a sut oedd y wal yn edrych yr haf yma gyda blodau’n tyfu arni.
Rydyn ni hefyd wedi ffensio coridor glan afon lydan. Mae un o’n ffiniau ni’n afon. Does fawr i’w weld yno hyd yn hyn, ond rydyn ni’n gobeithio y bydd coed yn hunan-hadu achos mae yna goed gwern, onnen, draenen ddu a draenen wen yn tyfu ar hyd yr afon, felly rydyn ni’n gobeithio y byddan nhw’n sefydlu eu hunain yn y coridor ymhen hir a hwyr. Ym mhob achos, mae’r coridorau hyn yn 3 metr o led mae’n debyg, felly mae’n ddarn eitha’ sylweddol o dir fydd yn cael ei adael heb ei aflonyddu. Fe gawsom gyfraniad hefyd tuag at dyllu pwll mawr, er mai cyfraniad bach iawn oedd yr un yr oedd y CBES yn gallu ei roi. Ond rydyn ni hefyd, ar ein cost ein hunain, wedi gwneud tyllau bas mewn cae pori cadwraeth mewn man arall ar y fferm. Rydyn ni newydd orffen gosod ffens ddwbl ar hyd llinell ffens arall, oedd yn cynnwys hen goed ac eithin, ac yno eto bydd yn adfywio dros gyfnod o amser, ond bydd yn cymryd rhai blynyddoedd i wneud hynny wrth gwrs. Ydych chi’n gwybod am y grantiau y maen nhw’n eu talu? Mae CBES yn talu 48% o gostau safonol, ac mae’r gost safonol yn swm y metr, sy’n cael ei ystyried yn gost cyfartalog ar gyfer gwneud y job arbennig honno. Felly os ydych chi’n gwneud job a’i fod yn gweithio allan yn fwy na’r gost safonol y metr, yna mae’n rhaid i’r tirfeddiannwr dalu’r 52% a gweddill yr arian, sy’n gyfraniad sylweddol iawn tuag at y gwaith. Rwy’n credu mai’r hyn yr ydyn ni wedi’i weld yw ein bod wedi gwneud gwaith na fydden ni wedi ystyried ei wneud fel arall, felly cyn belled ag yr ydyn ni yn y cwestiwn mae wedi ein hannog ni i edrych ar y potensial i gyfoethogi bioamrywiaeth ar y fferm hon.
Ond oeddech chi’n amgylcheddol cyn y prosiect hwn?
Wel, rydyn ni’n fferm organig ac wedi bod felly ers 1999. Y peth arall yw ein bod ni’n ei redeg fel fferm fasnachol ond rydyn ni wedi edrych am ardaloedd lle gallwn ni ildio peth tir, ond defnyddio’r gweddill o dan y safonau organig, i’w botensial masnachol. Rydyn ni’n gyfuniad o fferm da byw ac ar yr un pryd rydyn ni’n gwneud yr hyn a allwn ni yn y gwrychoedd ac mewn ardaloedd eraill. Rwy’n credu fod yna ymwybyddiaeth gynyddol ei bod hi’n bosibl gwneud cryn dipyn, mewn ardaloedd bychan dros eich fferm gyfan, hyd yn oed pan fyddwch chi’n ffermio i ennill bywoliaeth. Rwy’n credu mai’r hyn sy’n dda am y cynllun hwn yw mai’r nod yw ffurfio rhwydwaith o ardaloedd sy’n dda ar gyfer bioamrywiaeth, ond nid o anghenraid yn anelu at 100%. Fel hyn gallwch, mae’n debyg, gael ymateb llawer mwy ffafriol. Efallai pe byddai hi’n fater o bopeth neu ddim byd, efallai na fyddech chi’n gallu gwneud dim o gwbl. Dwi’n credu y byddai’r rhan fwyaf o bobl yn ystyried ei fod yn brosiect gwerth chweil. Dydych chi ddim yn sôn am symiau mawr o arian, ond mae’n cael ei ddefnyddio gan lawer o bobl mewn ffordd gymharol fach sy’n dod at ei gilydd i greu cyfanwaith arwyddocaol.
Diwedd