Iawn,
felly sut fyddech yn esbonio hanes Llanerchaeron i rywun a fyddai’n
dod yma heb wybod unrhyw beth amdano?
Iawn,
mae Llanerchaeron yn ystad fonedd Gymreig fach sy’n cynnwys tþ
a gynlluniwyd gan John Nash, gerddi muriau dwbl, fferm gartref a pharcdir.
Adeiladwyd yr adeiladau cynharaf tua diwedd y 1790au a chodwyd adeiladau
pellach yn y 1850au ac mae wedi aros yn gyfan, heb ei newid fawr ddim
ers y cyfnod hwnnw. Mae gennym amrediad cynrychioliadol da o hen adeiladau
fferm, sy’n anarferol gan bod cymaint o adeiladau o’r fath
wedi cael eu newid neu eu datblygu. Ceir granar, ysguboriau dyrnu, tþ
brecau, lloc teirw, y maent oll bron yn hollol ddigyfnewid ac mae hynny’n
unigryw mewn gwirionedd, ym Mhrydain ta beth. Mae’r holl ystadau
hyn bron wedi newid, byddent wedi cael eu haddasu a’u troi’n
westai, unedau llety neu gartrefi nyrsio ac ati.
Felly
pam oedd angen arian Amcan 1 arnoch?
Mae arian Amcan 1 wedi’n galluogi i weithio ar rannau eraill o’r
ystad ac eithrio’r prif amgylchedd adeiledig. Mae wedi rhoi’r
cyfle i ni ddarparu cyfleusterau i ymwelwyr, ac ystafell de, toiledau
ac ati. Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio ar y beili Cerbydau a fydd yn
rhoi dehongliad ehangach o’r fferm, y gerddi a’r ystad. Mae
hefyd yn ein galluogi i adnewyddu Llyn yr Ystad, ailgyflwyno gweithgarwch
pysgota, yn ogystal ag adnewyddu olwyn ddðr a chynllun hydro-electrig
yr ystad, nad yw wedi bod yn gweithio ers y 1950au. Yn ogystal, byddwn
yn adeiladu safle i wirfoddolwyr sy’n dymuno gweithio ar yr eiddo,
meithrin eu sgiliau a chael profiad gwaith.
Faint
o amser a dreuliwyd yn adnewyddu’r tþ?
Gwnaethpwyd y gwaith cyntaf ar du allan y tþ, a gychwynnwyd ym 1995
ac a aeth yn ei flaen am flwyddyn. Ym 1999, aethom ati i gychwyn ar y
gwaith ar y tu mewn, gyda chymorth cronfeydd Ewropeaidd 5b a Chronfa Dreftadaeth
y Loteri. Roedd hyn yn golygu adfer yr holl waith plastro manwl, y gwasanaethau,
y manylion ar y pren, y lloriau, y waliau, y cloriau, y cynllun addurno
ac adnewyddu’r beili gwasanaethau. Roedd y gwaith hwn wedi cymryd
deunaw mis i’w gwblhau. Rhagwelwyd y byddai 25,000 o ymwelwyr yn
ymweld â’r lle, a gwelwyd 32,000 yn ymweld y llynedd. Mae
gennym 200 o wirfoddolwyr lleol sy’n gweithio gyda ni i’n
galluogi i agor yr eiddo i’r cyhoedd.
A ydych yn cyflogi graddedigion lleol o Brifysgol Llanbedr Pont
Steffan, dyweder, ym maes Archeoleg?
Ar hyn o bryd, mae tri chyn fyfyriwr MA yn gweithio gyda ni; gwnaethant
gychwyn fel gwirfoddolwyr ac maent bellach yn cael eu cyflogi i feithrin
eu sgiliau galwedigaethol. Y syniad yw y byddant yn symud ymlaen i swydd
yn yr ymddiriedolaeth megis rheoli eu tþ ymddiriedolaeth eu hunain
neu weithio fel gwarchodwyr.
Sylwais
ar ychydig gynnyrch lleol ar y ffordd i mewn…
Maent oll yn dod o’r ardd â mur o'i chwmpas. Rydym yn gwneud
oddeutu chwech i 7 mil o bunnoedd y flwyddyn ac mae’r arian yn cael
ei ail-fuddsoddi yn y gwaith o ddatblygu’r eiddo.
Efallai
y gallech ddweud rhywfaint wrthyf am y weithdrefn grantiau, gan bwy y
cawsoch grant?
Cawsom gymorth gan Adran Ewropeaidd y Cyngor Sir ar gyfer ein prosiect
a bu Swyddfa Cyllido Ewropeaidd Cymru yn gweinyddu’n rhaglen Amcan
un. Mae prosiect Amcan 1 Llanerchaeron wedi bod yn rhedeg am flwyddyn
bellach ac mae’n rhan o brosiect 3 blynedd. Cyflwynwyd ein cais
yn 2002 ac fe’i cymeradwywyd yn 2003. Mae gennym 2 flynedd ar ôl
felly rydym yn tynnu tuag at y terfyn nawr. Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio
ar un o’r camau diwethaf o’r gwaith cyfalaf yn Llanerchaeron.
Nid yw’r broses yn un hawdd ond mae’n arian cyhoeddus ar ddiwedd
y dydd felly mae hynny’n ddigon teg.
Beth
oedd cost cyfan gwbl y prosiect?
£1,186,000, Cronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewropeaidd (roedd cymorth
ERDF yn werth £583,000, cafwyd £400,000 gan Gronfa Dreftadaeth
y Loteri (CDL) ac £20,000 gan y Gronfa Adfer Leol. Y gronfa ERDF
oedd y gronfa Amcan 1 a rhoddwyd arian y Gronfa Adfer Leol gan y cyngor
sir, a darparwyd £183,000 gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Faint
o swyddi a grëwyd o ganlyniad i’r prosiect hwn?
Llwyddwyd i greu 4 swydd i weithio gyda’r ymwelwyr, ac o ran y gwaith
adeiladu, cyflogir chwe chrefftwr yn ogystal â nifer o isgontractwyr,
a bydd swydd arall yn cael ei chreu sef gofalwr bwthyn gwyliau pan fyddwn
yn agor y bwthyn gwyliau yr ydym yn ei adfer, a’r gobaith yw y byddwn
yn gallu cyflogi mwy o staff wrth i’r eiddo ddod yn fwy poblogaidd.
Beth
am y cynnydd yn nifer yr ymwelwyr?
Gwelwyd cynnydd o 15% o’u cymharu â ffigurau’r llynedd,
sy’n ddiddorol oherwydd mae’r rhan fwyaf o atyniadau yn nodi
bod eu ffigurau yn debyg i’w ffigurau y llynedd neu ychydig yn is.
Rydym wedi gwneud llawer o waith marchnata eleni gyda chymorth cronfa
Adfywio, gan dargedu ardaloedd yn bellach i lawr yr M4 erbyn hyn, yn ardal
Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot. Rydym wedi cyhoeddi hysbysebion
yn y Western Mail a South Wales Evening Post, felly rydym wedi ehangu
ein hardal. Y llynedd, buom yn canolbwyntio ar yr ardal leol o fewn pedwar
deg pum munud o ddalgylch yr eiddo.
CAU'R FFENEST
|