|
|
|
|
|
| Myfyrwyr ar Y Cwrs |
Plymwyr dan Hyfforddiant |
Plymwyr dan Hyfforddiant (1)) |
Plymwyr dan Hyfforddiant (2) |
O’R DIWEDD – “TANCS”…CYFLEUSTER HYFFORDDI LLEOL I’N GWEITHLU YN Y DYFODOL!
|
|
|
| Yn hytrach na theithio cannoedd o filltiroedd y mis i Goleg Sir Benfro, gall prentisiaid plymwaith Ceredigion fanteisio ar hyfforddiant sy’n defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf, diolch i Gyfleuster Hyfforddi Plymwyr newydd Hyfforddiant Ceredigion Training yn Llanbadarn. Cynlluniwyd y safle plymwaith yn benodol i ddiwallu gofynion y cwricwlwm diweddaraf a’r newidiadau asesu i Fframwaith y Brentisiaeth Fodern. Yn ogystal â’r prosiect hwn sy’n cynnwys plymwaith, mae’r ganolfan yn cynnig hyfforddiant mewnol ym maes Peirianneg Mecanyddol a Galwedigaethau Pren hefyd. Enw swyddogol y prosiect hwn yw “TANCS” (Sgiliau Adeiladu Traddodiadol a Newydd) ac mae annog a chynorthwyo datblygiadau newydd yn y diwydiant wastad wedi bod yn nod Dafydd Jones, y Swyddog Prosiect, yn enwedig ym maes plymwaith eco a thechnoleg gwresogi solar a defnyddio tanwydd adnewyddadwy, cynaliadwy. Mae’r cyfleuster arloesol hwn wedi cael anogaeth a chymorth y Ganolfan Dechnoleg Amgen, Canolfan Eco Gorllewin Cymru, Ymlaen Ceredigion ac Asiantaeth Ynni Canolbarth Cymru. Mae’r ganolfan yn cynnig Hyfforddiant CGC City and Guilds ac erbyn diwedd 2007, y nod yw sicrhau bod holl blymwyr Hyfforddiant Ceredigion yn hyfforddi yma. Yn y tymor hir, rhagwelir y bydd modd darparu cyrsiau nwy ac olew penodol hefyd. O’r cychwyn cyntaf, ceir cyswllt rhwng y Ganolfan a chyflogwyr lleol trwy ddarparu cyrsiau byr i wella sgiliau gweithwyr a hyfforddeion, mewn cynhyrchion newydd, newidiadau mewn deddfwriaeth a thechnolegau newydd. Yn anad dim, mae’r prosiect yn rhoi’r cyfle i bobl fanteisio ar yr hyfforddiant a’r dechnoleg ddiweddaraf yn lleol. “Rydym yn hynod o falch ein bod wedi cael 15 o hyfforddeion yn dilyn cyrsiau plymwaith yn y ganolfan newydd hon yn ystod y flwyddyn gyntaf, a gobeithiwn gynnal niferoedd tebyg yn y dyfodol. Rydym wrth ein bodd â’r cynnydd a sicrhawyd gan John Egan yr hyfforddwr.” (Dafydd Jones – Rheolwr Prosiect TANCS)
|
|
DIWEDD.
CAU’R FFENESTR