logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

Y Gronfa Adfywio Lleol (LRF)

Ers cychwyn rhaglen Amcan 1 gwyddai Cyngor Sir Ceredigion am y broblem sy'n wynebu pobl sydd am ddatblygu prosiectau o ran canfod cyllid cyfatebol i'w ddefnyddio ar gyfer denu arian Amcan 1 Ewropeaidd. I'r perwyl hwn, rhoddwyd iddo symiau cymedrol o arian y gall ymgeiswyr sydd am greu prosiectau ei gael trwy'r system "Cais i'r Cyngor" (CIC). Bellach bwriedir ehangu'r system hon a'i defnyddio ar gyfer rhannu arian sydd wedi ei ddyrannu i'r Cyngor drwy "Gronfa Adfywio Lleol" (LRF) y Cynulliad Cenedlaethol.

Fel sy'n wir am arian y Cyngor, arian cyfalaf yw arian yr LRF gan mwyaf, ac mae'n addas fel cyllid cyfatebol ar gyfer prosiectau Amcan 1 sy'n unol â'r mesurau cyfalaf. Mae'r tabl isod yn dangos yn fras faint o gyllid sydd ar gael yn ôl y flwyddyn ariannol; os oes gennych chi ddiddordeb cysylltwch â Thîm Ewro'r Cyngor (Ffôn: 01545 572063) i gael gwybodaeth am y symiau sy'n weddill ar unrhyw adeg neilltuol.

Crynodeb o'r Cyllid Cyfatebol sydd ar gael trwy Gyngor Sir Ceredigion yn ôl y flwyddyn ariannol

CRONFEYDD - Symiau Darpariaethol 2004/05 2005/06 2006/07 2007/08
LRF (£) Wedi ymrwymo'n llawn 24,000 535,000 i'w gadarnhau

 

GWNEUD CAIS

Nod y system CIC yw galluogi'r Awdurdod i ymateb yn gorfforaethol i ymgeiswyr sydd am ddatblygu prosiectau (boed y rheiny'n rhai mewnol o'r Cyngor ei hunan neu'n ymgeiswyr allanol), ac sy'n ceisio cael cefnogaeth y Cyngor ar gyfer cais Amcan 1. Gallai ceisiadau am gefnogaeth ar gyfer prosiect fod ar sawl ffurf:

* Llythyr o gefnogaeth
* Amser swyddogion
* Arian cyfalaf
* Cyfuniad o'r uchod

I ddechrau dylai darpar ymgeiswyr gysylltu gyda Thîm Ewro'r Cyngor i drafod eu syniad ar gyfer y prosiect a'i addasrwydd ar gyfer Amcan 1 cyn cyflwyno ceisiadau ar gyfer Amcan 1 neu LRF. Ar ôl trafod os bydd yr ymgeisydd yn fodlon bod y prosiect yn addas dylai fwr ymlaen trwy'r broses o wneud cais dan Amcan 1.