Cynllun
grant dewisol yw “Cymunedau’r Dyfodol” a gynlluniwyd
er mwyn galluogi ac annog sefydliadau gwirfoddol yng Ngheredigion
i gymryd rhan mewn gweithgareddau adfywio cynaliadwy gyda ffocws cyfalaf
ac sydd yn seiliedig yn y gymuned gyda phwyslais cymdeithasol-economaidd.
Gweinyddir y cynllun gan Gyngor Sir Ceredigion ar ran Bwrdd Rheoli
Partneriaeth Ceredigion yn ei swyddogaeth fel Corff Arweiniol.
Erbyn
Medi 2005 bydd y cynllun wedi cefnogi nifer o gynlluniau sydd ag elfen
cyfalaf sylweddol, sydd o natur economaidd neu gymdeithasol economaidd
a gwneud un neu fwy o’r canlynol:
· Cynorthwyo i ddarparu cyfleusterau o fewn y gymuned sydd
yn caniatáu amrediad o gamau cymunedol gan gynnwys cyfleusterau
ar gyfer y celfyddydau, gweithgareddau diwylliannol a hamdden, gofal
plant a dibynyddion a darparu cysylltiadau â’r farchnad
lafur megis hyfforddiant hawdd ei gael, adnodau gwaith a chanolfannau
cynghori.
· Cynyddu’r mynediad i gludiant ar gyfer grwpiau ymylol
drwy hybu cynlluniau cludiant sydd yn seiliedig ar y gymuned i gymdogaethau
pellennig.
· Cynorthwyo i ddarparu a hybu cyfranogiad cymunedau mewn cynlluniau
sydd yn delio â’r rhwystrau i waith, sydd yn deillio o
anghydraddoldeb iechyd, darparu iechyd cymunedol, a chamau ataliol
sydd yn delio â rhwystrau i gymryd rhan unwaith eto yn sgil
troseddau ac ofn troseddau.
· Gwella mynediad i Dechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu ynghyd
â dulliau newydd o gyflwyno pobl i dechnolegau newydd.
· Gwella gwasanaethau cymunedol a phrif ffrwd, sydd yn cyfrannu
tuag at gymryd mwy o ran ym mywyd y gymuned gan y rhannau hynny o’r
boblogaeth sydd yn cael eu dieithrio.
· Cefnogi gwelliannau corfforol ac amgylcheddol yn y gymuned
sydd â ffocws economaidd neu gymdeithasol economaidd.
· Cefnogi prosiectau sydd yn hyrwyddo cynlluniau ynni cymunedol
neu wastraff ac nad ydynt yn unol â chanllawiau grant amgylcheddol
eraill.
· Annog y defnydd o CTG ar gyfer datblygu a chefnogi cynlluniau
sydd yn cael eu harwain gan y gymuned, yn enwedig lle bydd y cynllun
yn arwain at leihau effeithiau negyddol unigedd a bod ar yr ymylon.
Uchafswm
y grant fydd yn daladwy yw £20,000 cyfalaf a /neu £20,000
refeniw.